Cymdeithas Dydd yr Arglwydd yng Nghymru
"HWN YW Y SANCTAIDD DDYDD"

The Fellowship of the Lords Day in Wales
"THIS IS THE DAY THE LORD GAVE US"

 
 

 

Obituary:

Reverend Eifion Wynne, Dowlais
(1937-2015)

We as the Lord's Day Fellowship in Wales has lost one of our leaders in the sudden passing of the Rev. Eifion Wynne on Sunday, 27 December among his loved ones in Merthyr. He was the product of the Welsh Baptist Chapel of Salem, Fforddlas in the Vale of Conwy, he and his elder brother, Reverend Goronwy Wynne, Llandovery. He thought the world of the chapel of his boyhood, and when he completed 27 years in 2012 as Secretary of the East Glamorganshire Baptist Association, they presented him with a framed picture of Salem. He was exceptionally glad.

 

  He celebrated fifty years in the Christian Ministry in 2015. Ordained in 1965 to be the Baptist minster in Pontrhydfendigaid in the upper reaches of the Teifi Valley. Eifion spent eight fruitful years in the Welsh heartland in those days of Bont, Ffair Rhos, Swyddffynnon, some fifteen miles from Aberystwyth.

When he moved in 1973 to Pembrokeshire to Croesgoch, he was a fully fledged man of faith. By then his family was complete, his daughter and son, receiving the love of their mother and father, and the Chapel was at the centre of the community, Over forty years later Croesgoch Chapel is the ninth strongest chapel in the Pembrokeshire Welsh Association, Seion, Crymych, Bethel, Mynachlogddu, Bethlehem, Newport are in the same bracket in membership strength.

The easy going, kind-hearted approach of the Minister endeared him to all and sundry, as well as his pulpit gifts of communicating the Word. In April 1982 he accepted a call to an industrial village of great renown for its music, culture and chapels, Dowlais near Merthyr Tydfil. He followed the Reverend
Andreas Williams who had ministered at Caersalem for 33 years, and Eifion stayed at Dowlais for the rest of his days. He retired from the pastorate but as he had no successor, he ministered as before faithfully and with panache.

 

   He gave of his best to the East Glamorgan Welsh Baptist Association, witnessing to a huge decline and change linguistically. Most of the chapels became bilingual, or English only services, except Bethesda, Abercwmboi, where my father-in-law, Red. Arthur G. Llewellyn, laid strong foundations, and Tabernacl, Cardiff. The loss of his supportive wife in 2002 was hard for him, and then he suffered a stroke some eight years ago. He had a huge concern for the uniqueness to the Lord's Day as the time to celebrate the Easter Victory of his Saviour, Jesus Christ. He represented the Association on Exective the South Wales branch of the Lord's Day Fellowship and he was ultra faithful. He came regularly in May and November, all the
way from Dowlais to Aberystwyth, and we pay a tribute to Wendy Williams which made this possible in the last seven years. She supported wholeheartedly Eifion, Eleri and the family. It was a treat to spend half an hour with both of them, as well as our Chairman, Revd. Aled Jenkins and his wife before the committees at Morlan. Eifion had a store of anectodes from his long Ministry. It was a blessing to hear him at prayer imploring on our Creator to relieve Wales of its spiritual malaise. Eifion distributed our magazine to a large circle and praised in the committees often what the Editor had written. He was the salt of the earth, God's ambassador, a servant of Jesus and who had been inspired by the Holy Spirit.

 

  We were on the same wavelength, born the same year, and both of us stalwarts of Welsh Nonconformity, in its years of change, decay and disappearance. I remember him arranging a Public Meeting in Dowlais for our Society, and I drove down from Liverpool to address the congregation that he gathered through his contacts with the Free Churches. He was delighted at the response, the collection, and the address. We were bosom friends and our Society has lost one of its unsung heroes. We sympathise sincerely with his daughter, Eleri (Dowlais), the son Emyr (Treharris), the grandchildren, his brother and his friend Wendy, the whole family, and the flock at Caersalem. It was a privilege to know him for 50 years, and the funeral was held at his beloved Caersalem on 13 January 2016, May the Eternal Light be upon his soul for eternity e , Da was, da a ffyddlon, dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd.

D. Ben Rees
 

 

 

 

 

For further information and to read
the review of his book, click here

 

 

 

 

 

 

 


 

 

Coffd:  Parchedig Elwyn Jenkins (1933-2013), Aberystwyth

Yn Hydref 1960 y cwrddais gyntaf gydag Elwyn, pan ddaeth o Goleg Trefeca i Goleg Diwinyddol Aberystwyth fel myfyriwr am y weinidogaeth gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru.  Yr oedd wedi treulio blwyddyn gydar Prifathro Trefor Owen Davies a Mrs Mabel Bickerstaff yn Nhrefeca, ac yr oedd Elwyn yn ŵr o brofiad helaeth ac unigryw.  Fei ganwyd yr hynaf o wyth o blant yn Pentwyn Cottage, Pentwyn sydd ar gyrion Cross Hands.  Ei rieni yn blant sir Gr a chafodd ei addysg yn Ysgol Cwmgili ar ddarpariaeth addysgol yng Nghapel Pen-twyn a bu datgorffori yr eglwys honno yn gryn siom iddo.  Tristwch mawr i bob gweinidog ymroddgar yw clywed am gymaint o gapeli o bob enwad yn cau led led Cymru.  Or ysgol dechreuodd weithio yn y lofa yn niwedd 1948.

Erwaur glo dan loriaur glyn yw ei le,

Gydai lamp ai erfyn;

     Iw ddu gell ni ddaw dydd gwyn,

     Ni ddaw haul yno iw ddilyn.

Treuliodd ei flynyddoedd cynnar ymhlith y glowyr ac y mae ei ail bennod yn ei hunangofiant difyr, Pwll, Pl a Phulpud (Llandysul, 2008) o dan y teitl, Talced Caled y Lofa yn hynod o werthfawr fel darlun o fywyd y glowyr yng nglofa enwog Y Mynydd Mawr.  Yn ei flynyddoedd cynnar disgleiriodd ar y cae rygbi i dm y Tymbl, ac yna gwisgodd crys sgarlad Llanelli, cyn symud i Glwb Rygbi Abertawe (1954-1956) a chwarae dros Gymru yng Nghaerdydd yn erbyn y Llewod ar Sadwrn, 22 Hydref 1955.  Er siom dirfawr ni chafodd gap llawn ac arferai aml un o selogion y bl gron ddweud wrthyf iddo gael cam gan y Big Five.  Chwaraeodd yn y Rhondda yn y prawf cyntaf dros Gymru.  Haeddair cap fel y dangoswyd yn ei gm yn erbyn Llewod, ond nid oedd ef yn ddigon da meddai un blaenor o Langennech i snobs Caerdydd.  Yr oedd yn gryn seren ar y cae a chafodd flynyddoedd dedwydd.  Felly pan gyrhaeddodd Elwyn y Coleg Diwinyddol yr oedd yn dod gydag ef adnoddau prin rhyfeddol.

Deuthum yn bennaf ffrindiau, gan y gwyddwn am ei gefndir ac yr oeddwn yn arwain protestiadau yn erbyn apartheid yn Ne Affrig, yn erbyn crogi llofruddion, dros Sosialaeth a Chymreictod.  Llwyddais i gael hanner y myfyrwyr i ymuno r Gangen Sosialaidd, i hybur gweithgarwch, ac i lansio cylchgrawn er cof am Aneurin Bevan o dan yr enw Aneurin.  Gwahoddwyd Elwyn yn un o swyddogion y cylchgrawn, a buom yn aml i brotest yn erbyn arfau niwclear yn enw CND.  Ni chollais gysylltiad ag ef pan adewais y Coleg.  Gwahoddwyd ef in priodas yn Aberdr yn 1963 ac im Cyfarfod Sefydlu yn Abercynon, a bm innau yn ei gyfarfod sefydlu ef yn Moriah, Brynaman a Brynllynfell, Cwmllynfell yn 1964.

Gwnaeth ffrindiau ai aelodau ai bugeilio yn dyner.  Y dyn tal, golygus yn meddu ar galon oedd yn llawn cydymdeimlad.  Nid rhyfedd iddo roddi oriau lawer i waith Cymorth Cristnogol.   Aeth holl elw ei hunangofiant at yr elusen Cymorth Gristnogol.  Bu yn aelod hynod o werthfawr o Bwyllgor y De o Gymdeithas Dydd yr Arglwydd.  Mynychodd y Gymdeithas yn ffyddlon ai arabedd ai hiwmor yn ysgafnhau y drafodaeth.  Meddai ar lawer o storau ac atgofion, a bu yn weinidog ar un o eglwysi enwocaf yr enwad, sef y Tabernacl, Aberystwyth, ymhlith pobl ddeallus a dylanwadol ym mywyd y dref.  Ond cadwodd urddas y pulpud a byddain paratoi yn ofalus.  Cafodd pobl enwog yn aelodau iddo fel Gwenallt, Dr T. J. Davies, David Jones (Blaenplwyf), Dr Moelwyn Williams, Dr Huw Owen, ac ar l iddo symud i Lanbedr Pont Steffan ddaeth Dr D. Simon Evans, Islwyn Ffowc Elis, yr Athro Cyril Williams, Mrs Bethan Phillips a John, Parchg Emlyn C. Jenkins (un arall a fun amddiffyn hawliaur Sul ym mywyd cymdeithas).

Ar fy nheithiau byddwn yn galw iw weld ef ai deulu yn Llanbadarn Road, Aberystwyth a Heol y Bont, Llanbedr Pont Steffan, lle y byddai ei briod Elizabeth yn garedig ei chroeso ar bechgyn, y tri ohonynt, Aled, Iwan ac Emyr, au teuluoedd yn dod a llawer o bleser iddo.  Gellid dibynnu arno, a bu colli ei gymar dwy flynedd yn l yn golled anfesuradwy.  Ni fu llawer o hwyl arno ef ar l hynny gan ei bod yn dibynnu llawer ar ei gilydd.  Yr oedd hin bartneriaeth werthfawr.  Pan euthum ati i sefydlu Ymddiriedolaeth Gogledd-Ddwyrain India-Cymru estynnais wahoddiad iddo ddod yn aelod o Fwrdd Golygyddol yr elusen.  Bodlonodd.  Byddem yn cyfarfod yn gyson yn ystafell y Gweinidog yn y Tabernacl.  Aelodau y Pwyllgor oedd y Parchedigion Stanley G. Lewis; Stephen Morgan; D. Ben Rees; J. Elwyn Jenkins; Ieuan S. Jones a Mr Brynmor Jones.  Cynhyrchwyd gennym ddwy gyfrol hardd, un yn Gymraeg ar llall yn Saesneg, ar y Cenhadon o Gymru a fu yn gwasanaethu ar gyfandir yr India o 1840 i 1970.  Lansiwyd y gyfrol yng nghapel Morfa a bu Elwyn yn gymorth mawr, ef ai gyfaill Terry Adams.  Dyna gyfraniad pwysig arall oi eiddo.

Gwyddwn ym mhwyllgorau y Gymdeithas ei fod ef yn iach yn y ffydd a bod ei feirniadaeth ar ei gyd-Gristnogion yn berthnasol.  Bu ef yn eciwmenydd oi groth, yn arwain pererindodau i Wlad yr Iesu gydag Eglwyswyr amlwg fel y Dr John Richards, Esgob Tyddewi.  Gwelsom ein gilydd yng Ngwlad yr Iesu, Elwyn ai grŵp a minnau am grŵp yn cymdeithasu yn ninas Jerwsalem, a hynny yn haf 1973.  Rhoddodd ei ysgwydd o dan y baich wrth ad-drefnu Presbyteriaeth Cymraeg yn nhref Aberystwyth.  Talwn deyrnged i was yr Arglwydd, a dywedaf:

Edrych nl dros ysgwydd amser,

gweld y gwarchod da arnom fu,

gweld ein hofnaun cael eu trechu,

gwybod ydym fod Duw on tu.

D. Ben Rees


GALWAD I ADDOLI AR Y SUL YN YR AMERICA
A CALL TO WORSHIP ON SUNDAYS IN AMERICA


Cymanfoedd y Sul a drefnwyd gan Cymdeithas Dydd yr Arglwydd
yng Nghymru o 1995 i 2010

     1995      Capel Tegid y Bala ar Sul 7 Mai

     1996      Capel Tegid y Bala ar Sul 5 Mai

     1997      Capel Heol China, Llanidloes ar Sadwrn 17 Mai

     1998      Carmel, Conwy ar Sul Mai 3

     1999      Capel y Drindod, Pwllheli ar Sul 2 Mai

     2000      Seilo, Llanbedr Pont Steffan ar Sul 25 Mehefin

     2001      Gohiriwyd y Gymanfa oherwydd clwyr traed ar genau. Y bwriad oedd ei chynnal yn
                  Nyffryn Clwyd

     2002      Capel Soar-y-Mynydd ar Sul 16 Mehefin

     2003      Capel y Bedyddwyr, Blaenwaun ger Llandudoch ar Sul 29 Mehefin

     2004      Capel yr Adfa ger Llanfair Caereinion ar Sul 27 Mehefin

     2005      Capel Moriah, Casllwchwr ar Sul 26 Mehefin

     2006      Capel Tegid y Bala (o dan fendith Cyngor Cytn y dref) ar Sul 25 Mehefin

     2007      Capel Presbyteraidd Nantgaredig, Sir Gaerfyrddin ar Sul 24 Mehefin

     2008      Capel Bethel, Heathfield Road, Lerpwl ar Sul 29 Mehefin

     2009      Gohiriwyd oherwydd anawsterau ariannol a lleoliad y Gymanfa gan ir gweinidog
                  symud or capel a drefnwyd

     2010      Capel Annibynwyr Saron, Llangeler ar Sul 27 Mehefin

     2011      Bwriedir cynnal y Gymanfa am 3 or gloch a 5.30 yng Nghapel Cymraeg Seion,
                  Croesoswallt ar Sul 26 Mehefin
 



Gwybodaeth am y Cymanfaoedd

Llywyddion, Cenhadon ac Arweinwyr y Gn yng Nghymanfaoedd
Cymdeithas Dydd yr Arglwydd yng Nghymru


1.     Cymanfa 1995 yn Y Bala
        a)     Prynhawn
                Llywydd:       Y Parchedig Gwilym O Jones, Croesoswallt
                Annerchiad:   Mrs Marian Lloyd Jones, Rhosllanerchrugog
                                    Patrwm y Sul ir Ganrif Nesaf

        b)     Hwyr
                Gweinyddiad o Sacrament Swper yr Arglwydd:
                Y Parchedigion Glyn Thomas, Rheithor y Bala,
                Brian M Griffiths, Capel Tegid
                Gareth Huws, Capel yr Annibynwyr

2.     Cymanfa 1996 yn Y Bala
        a)     Prynhawn
                Llywydd: Y Parchedig Gwilym O Jones
                Annerchiad: Dr John G Williams, Lerpwl
                Tystiolaeth yr Eglwys Heddiw:

        b)     Hwyr
                Llywydd: Y Parchedig Ddr D Ben Rees
                Gweinyddiad o Sacrament Swper yr Arglwydd:
                Y Parchedigion Glyn Thomas, Rheithor y Bala,
                Brian M Griffiths, Capel Tegid
                Gareth Huws, Capel yr Annibynwyr
                Anerchaid:   Y Parchedig Brian M Griffiths

3.     Cymanfa 1997 yn Llanidloes
        a)     Prynhawn
                Llywydd:      Y Parchedig Ddr D Ben Rees
                Annerchiad:  Y Parchedig W Eifion Powell -
                                   Y Sanctaidd ar Brenhinol Ddydd

        b)     Hwyr
                Gweinyddiad o Sacrament Swper yr Arglwydd:
                Y Parchedigion J Pinion Jones a D Ben Rees
                Anerchiad: Y Parchedig Dewi Wyn Williams, Dolgellau

4.     Cymanfa 1998 yng Nghonwy
        a)     Prynhawn
                Llywydd:     Y Parchedig Gwilym O Jones
                Anerchiad:  Y Parchedig J Haines Davies, Hen Golwyn -
                                 Hawliau Dydd yr Arglwydd

        b)     Hwyr
                Neges arbennig gan Y Gwir Barchedig Alwyn Rice Jones, Archesgob Cymru

5.     Cymanfa 1999 ym Mhwllheli
        a)     Prynhawn
                Llywydd:     Y Parchedig Gwilym O Jones
                Anerchaid:  Ms Nia Rhosier, Pont Robert

        b)     Hwyr:
                Llywydd:     Y Parchedig Dr D Ben Rees
                Gweinyddiad o Sacrament Swper yr Arglwydd:
                Y Parchedig William Davies

6.     Cymanfa 2000 yn Llanbedr Pont Steffan
        a)     Prynhawn
                Llywydd:     Y Parchedig Ddr D Ben Rees
                Anerchiad:  John Walter Williams, Y Bala
                                 Cadwraeth y Sul ai Oblygiadau

        b)     Hwyr
                Llywydd:     Y Parchedig J Elwyn Jenkins
                Anerchiad:  Y Parchedig Ddr D Ben Rees

7.     Cymanfa 2001 - gohiriwyd

8.     Cymanfa 2002 yn Soar y Mynydd
        a)     Prynhawn Oedfa Bregethu
                Llywydd:     Y Parchedig Aled G Jenkins, Hwlffordd
                Pregethwr:  Y Parchedig Desmond Davies, Caerfyrddin
                Unawdydd:  Mrs Lavina Thomas, Llandeilo

        b)     Hwyr - Oedfa o Fawl
                Llywydd:     Y Parchedig Dr D Ben Rees
                Arweinydd:  Mrs Delyth Hopkin Evans, Pontrhydygroes

9.     Cymanfa 2003 yn Blaenwaun, Llandudoch
        a)     Prynhawn Oedfa Bregethu
                Llywydd:    Y Parchedig G Aled Jenkins
                Pregethwr: Y Parchedig Tudor Davies, Aberystwyth

        b)     Hwyr Oedfa o Fawl
                Llywydd:     Y Parchedig Ddr D Ben Rees
                Arweinydd:  John S Davies, Efailwen

10.   Cymanfa 2004 yn yr Adfa
        a)     Prynhawn Oedfa Bregethu
                Llywydd:    Y Parchedig Ddr D Ben Rees
                Pregethwr: Y Parchedig Megan Williams, Dolgellau

        b)     Hwyr Oedfa o Fawl
                Llywydd:       Y Parchedig Ddr D Ben Rees
                Arweinydd:    Mr R Ifor Griffiths, Lerpwl
                Organyddes:  Mrs Margaret Anwyl Williams
 
11.   Cymanfa 2005 yn Moriah, Casllwchwr
        a)     Prynhawn - Darlith - Evan Roberts ar Diwygiad
                                  gan Y Parchedig Ddr D Ben Rees

        b)     Hwyr - Cymanfar Diwygiad
                Llywydd:      Y Parchedig G Aled Jenkins
                Unawdwyr:   Teifryn Rees a Helen Gibbon
                Arweinydd:   Alan Frewster, MBE, Llangennech
                Organydd:    Y Parchedig David Jones, Llanelli

12.   Cymanfa 2006 yn Y Bala
        a)     Prynhawn
                Llywydd:     Y Parchedig Gwilym O Jones
                Annerchiad: Y Parchedig Ddr D Ben Rees
                                  Teulu Duw

        b)     Hwyr
                Llywydd: Y Parchedig Ddr D Ben Rees
                Gweinyddiad o Sacrament Swper yr Arglwydd:
                Y Parchedig Eric Greene
                Traddodwyd yr Homili gan y Parchedig Dafydd Rees Roberts, Llanuwchllyn

13.   Cymanfa 2007 yn Nantgaredig
        a)     Oedfar Bore gydar plant ar ifanc
                Llywydd: Y Parchedig G Aled Jenkins
                Traddodir Neges: D Nigel Davies

        b)     Oedfar Prynhawn Gymanfa Ganu
                Llywydd:     Y Parchedig Ddr D Ben Rees
                Arweinydd:  Mr Gwyn Nicholas, Ffynnon Henri
                Traddodir Genadwri: Mr Havard Gregory, Caerdydd

14.   Cymanfa 2008 yn Lerpwl
        a)     Prynhawn
                Llywydd:     Y Parchedig D Ben Rees
                Anerchiad:  Y Parchedig Ddr Elfed ap Nefydd Roberts, Wrecsam
                                  Ffydd a Diwylliant

        b)     Hwyr
                Llywydd:     Yr Athro Mari Lloyd Williams,
                                  Prifysgol Lerpwl a Chapel Waungoleugoed
                Arweinydd:  Mr R Ifor Griffith
                Organydd:   Mrs Margaret Anwyl Williams

15.    Cymanfa 2009 - Gohiriwyd

16.    Cymanfa 2010 yn Saron, Llangeler
        a)     Oedfar Bore
                Llywydd: Y Parchedig G Aled Jenkins
                Anerchiad: Mr Nigel Davies

        b)     Oedfar Prynhawn
                Llywydd:     Y Parchedig Ddr D Ben Rees
                Arweinydd:  Mrs Margaret Daniel, Aberporth

 


Cymanfa Dydd yr Arglwydd 2010

 gan y Parchg D Ben Rees 

Mae disgwyl mawr yng ngodre Ceredigion am Gymanfar Sul a gynhelir ar Sul 27 Mehefin yng Nghapel Saron, Llangeler ger Llandysul yng Nghyfundeb Ceredigion.  Y mae gan yr Annibynwyr gapel arall or enw Seilo yn un plwyf ond fod y capel hwnnw yn perthyn i Gyfundeb Gorllewin Caerfyrddin.  Yn rhyfeddol iawn mewn dyddiau fel ein dyddiau ni y mae gan y ddau Gapel bob i Weinidog.  Bugail Saron (lle cynhelir y Gymanfa) ywr Parchedig Aled Jones, MA MTh BD.  Bydd ef yn cymryd rhan yn oedfar prynhawn, a da fydd ei gyfarfod gan iddo fod yn weinidog ar Eglwys Unedig Gymraeg Dewi Sant, Toronto, ac yn dysgu yn Ne Affrig cyn derbyn galwad i Saron, Llangeler, Carmel, Prengwyn a Soar, Penboyr yn 2009.  Gweinidog Seilo Llangeler ers 1998 ywr Parchedig Guto Prys ap Gwynfor, LLB, BD,  Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg eleni.  Edrychwn ymlaen at ei weld yntau yn un on cyfarfodydd gydai braidd.

            Cynhelir fel y gwyddoch ddau gyfarfod.  Eleni bwriadwn ganolbwyntio ar y plant ar ieuenctid yn oedfar bore am 10.30 or gloch, o dan lywyddiaeth y Parchedig Aled Jenkins, Hwlffordd, Llywydd Pwyllgor De Cymru or Gymdeithas.  Cymerir rhan gan ieuenctid y for a chawn am yr eildro gwmni a chyfraniad Mr Nigel Davies, Sn Clr ac un a gyfrannodd yn helaeth i ieuenctid capeli Sir Gaerfyrddin.  Nid anghofir ei gyfraniad yn 2007 yn yr oedfa a drefnwyd gan y Gymdeithas yn Nantgaredig yn Nyffryn Tywi.

            Darperir lluniaeth am bris o 3 gan chwiorydd Saron ar ein cyfer rhwng y ddwy oedfa a disgwyliwn nifer dda i aros ir ddarpariaeth haelionus yma.  Caiff y plant eu bwydo am ddim ond disgwylir i ni oedolion helpur sefyllfan ymarferol.

            Yna am 2 or gloch byddwn yn ailgyfeirio ein camrau ir cysegr ar gyfer oedfa i Foliannur Arglwydd o dan arweiniad Mrs Margaret Daniel, Aberporth ac Ysgrifennydd Cyhoeddiadau capel enwog Blaenannerch, lle y bu'r seraff-bregethwr, y Parchedig M P Morgan yn weinidog am dros 60 mlynedd.  Gwyddom am ddawn fawr Mrs Margaret Daniel (wedir cyfan maen chwaer ir athrylith a gollwyd Awst y llynedd, y Prifardd Dic Jones, yr Hendre) fel arweinydd dau gr ac arweinydd cymanfaoedd canu.  Y tro hwn bodlonodd BBC Radio Cymru ddod atom i recordior gwasanaeth ar gyfer Caniadaeth y Cysegr.  Y mae Capel Saron wedi cydweithio Phwyllgor Gwaith y Gymdeithas i drefnu Cymanfa in hysgogi i addoli Duw yn ein cysegr ac in calonogi ni oll i fod yn llawn gobaith wrth seinio moliant ir Arglwydd ar y dydd unigryw.  Erbyn hyn crwydrodd y Gymanfa i lawer bro, or Bala i Bwllheli, o Lanidloes i Lerpwl, o Soar-y-mynydd i Siloh, Llanbedr Pont Steffan, o Blaenywaun, Llandudoch i Gasllwchwr lle y cafodd Evan Roberts ysbryd Duw yn ei gynnal, o Adfa yn Sir Drefaldwyn i Soar, Llangeler a Nantgaredig.  Pob un or brydd hyn wedi elwa o ddyfodiad y Gymanfa a mawr obeithiwn y cawn weld cefnogwyr y Gair ar Gn yn dod ynghyd ar Sul 27 Mehefin 2010 i Langeler.  Lluniodd un o weinidogion a fagwyd yn y cylch, y Parchedig John Gwilym Jones englyn crefftus i lansio Caneuon Ffydd ddeng mlynedd yn l.  Mae neges yr englyn yn berthnasol i ni ym Mehefin 2010: 

            Cynhaeaf y Caneuon rown i wlad,
            Rhown lyfr mewn gobeithion
            Y daw Duw, drwyr gair ar dn,
            Eilwaith i hawlioi chalon. 

Diolch yn llu i Gymanfa Llangeler.

 


 

Cefndir ac Amcanion
Cymdeithas Dydd yr Arglwydd yng Nghymru



 

Cymdeithas Dydd yr Arglwydd

Y mae addoli yn angenrhaid ir teulu Cristnogol a bu Cymdeithas Dydd yr Arglwydd yn gyfrwng hybu tystiolaeth am y Sul ar hyd y cenedlaethau. Ni fur flwyddyn ddiwethaf yn hawdd ir Gymdeithas oherwydd y sefyllfa economaidd on hamgylch ac yn ein cyfarfyddiad yn Aberystwyth yn niwedd Ebrill penderfynwyd galw sylw at ein hangen am gefnogaeth haelionuss aelodau ein heglwysi, an heglwysi llawer ohonynt yn barod iawn eu cymwynas, ar enwadau oll.

Apl Ariannol
Dylid anfon y cyfraniadau hyn at ein Trysorydd newydd, Mrs Margaret Jones, un o weithwyr brwd yr Eglwys Bresbyteraidd yng nghylch Afan ac Ogwr. Dymar manylion lle y dylid anfon y cyfraniadau: Mrs Margaret Jones, 2 Brockway Close, Baglan, Port Talbot, SA12 8EL. Bydd ein Trysorydd yn falch iawn o dderbyn pob cyfraniad er mwyn i ni gyflawni ein gwaith pwysig o gyhoeddi y cylchgrawn dwyieithog, Etifeddiaeth. Gobeithiwn y gwel hwn olau dydd ar ffurff cylchlythyr yn ystod haf 2009.

Gohirio Cymanfar Sul
Ar gair arweinwyr Capel Saron, Llangeler gohiriwyd Cymanfa Sul 2009 i 2010, a bodlonodd Pwyllgor Gwaith y Cymdeithas. Bydd y Gymanfa 2010 yn cael ei chynnal ar Sul, 27 Mehefin yn Llangeler. Dwy oedfa. Y boe am 10.30 or gloch yng nghwmnir plant ar ieuenctid, yna cyfle i gymdeithasu a mwynhau lluniaeth cyn mynchu y Gymanfa Ganu am 2 or gloch. Da oedd cael cwmni tri o selogion Capel Saron yn ein cyfarfyddiad i drafod y weledigaeth a byddwn yn cadarnhau yr holl drefniadau yn ein cyfarfyddiad ym mis Tachwedd.

Dymunon dda
Dymunwn yn dda ir Parchedig Eifion Wynne, Dowlais ar l ei waeledd gan ein bod yn gweld ei golli yn fawr on plith. Ef yw Ysgrifennydd derbynadwy Cymanfa Dwyrain Morgannwg o Undeb Bedyddwyr Cymru. Gwasanaethodd gapeli Cymraeg ei enwad yn Dowlais ers 1982. Da was, da a fyddlon ydyw ym mhob cylch on tystiolaeth i Grist, gan gynnwys y Gymdeithas hon.

D Ben Rees
(Ysgrifennydd Mygedol)

Cefndir

SefydIwyd y Gymdeithas yn y tridegau ac am flynyddoedd bu gan y Gymcleithas ysgrifennydd llawn amser. Y Parchg R T Gregory oedd y sylfaenydd ac fe'i dilynwyd gan y Parchg Trefor Griffiths a chafodd y Gymcleithas gefnogaeth gref dros y blynyddoedd. Deil y Gymcleithas yn weithgar ond y mae hi'n fwy anodd o lawer erbyn hyn i gael y gefnogaeth a deilynga. Er hynny mae gan y Gymdeithas weinidogion a lleygwyr yn y de a'r gogledd sydd yn barod i wasanaethu'n gydwybodol. Cynhelir Pwyllgor y De Mwywaith y ftwyddyn ym mis Ebrill neu Mai yn Abertawe ac yrn mis Hydref neu Dachwedd yn Aberystwyth. Bydd Pwyllgor y Gogledd bob amser yn cyfarfod ym mis Mehefin yn y Bala. Gwasanaetha'r Parchg G. Aled Jenkins, HwIffordd yn Gadeirydd Pwyllgor y De a'r Parchg Gwilym 0. Jones, Croesoswallt fel Cadeirydd Pwyllgor y Gogledd. Gofelir am y drysoryddiaeth gan Mrs Eira Evans, Llansamlet a'r ysgrifennydd ar gyfer Cyrnru gyfan yw'r Parchg Ddr D Ben Rees.

Athroniaeth y Mudiad

Credodd y Gymcleithas o'r cychwyn fod dydd cyntaf yr wythnos, y Sul, yn ddiwrnod pwysig i bob Cristion ac i'r gymcleithas Gristnogol. Credwn yn gyntaf mai diwrnod yn rhydd o waith ydyw, ac er 1992 bu hi'n drist i weld siopau a masnachdai yn anghofio un o hanfodion y Sul. Ordeiniodd Duw orffwys a llawenydd a hamddena yn ogystal A gwaith a gorchwyl busnes. Y mae'r naill mor bwysig Wr llall, a'r naill yn angenrheidiol Pr llall. Ni ellir gorffwys na hamddena heb weithio na gweithio heb orffwys a hamddena, y mae'r ddau yn hanfodol i'w gilydd.
Yn ail, diwrnod i wneuthur daioni. Dyna ydyw pob ~ diwrnod o dan benarglwyddiaeth Duw ond y mae'r Sul yn unigryw. Y ffordd orau i gadw'r Dydd fel ag y dylid ydyw edrych ar esiampl yr Arglwydd lesu ei bun, Arglwydd y Dydd. Ni chredai Iesu y dylid troPr Dydd yn ddydd heb gyflawni iachfid ar y person oedd mewn angen, ac ni chredai y dylid gadael i anifail foddi yn y ffos am y byddai'n anghywir ei godi allan o'i gyflwr enbydus. Ta faint gwell gan hynny ydyw dyn na dafad?' Telly rhydd yw gwneuthur yn dda ar y Sabathau.' Dyma ni gyda rheol euraidd Dydd yr Arglwydd - gwneud daioni Duw yn nhir y rhai byw. Da yw mynd Pr cysegr ar y Sul, a phob adeg, ond godidocach yw gwneud daioni i'r anghenus sydd yn galw am yrnwared.
Gwir y byddai'r lesu yn mynychu 'ty' cwrdd', y Synagog ar y Saboth, ond cofier hefyd ei fod yn mynd am dro trwy'r caeau yd gyda'i ddisgyblion, yn caniatau iddynt dynnu'r tywys wrth fynd heibio'r gwenith, ac yn eu harriddiffyn rhag y beirniaid am wneud hynny trwy ddweud fod y Saboth wedi ei wneuthur er mwyn dyn, a'i fod Ef ei Hun yn Arglwydd ar y Saboth, a phe buasai tynnu'r tywys yn bechod, yn sier, fuasai Arglwydd y Dydd ddim yn caniatau i'w ddisgyblion ei Hun gyflawni hynny.
Yn drydydd diwrnod i addoli Duw. Dydd Duw ydyw, dydd i gyflwyno ein diolchgarwch, i gael ein hysbrydoli gan Air Duw, i foliannu ae i weddio, i hyfforddi'r plant a chysuro a golew ac ysbrydoli'r oedolion. Cyfle i weinyddu'r sacramentau a chyfle i gyhoeddi'r newyddion da. Amcan uchaf pregethu yw dysgu ac argyhoeddi ac adeiladu pobl Dduw. Nid oes rhaid cynnal dwy oedfa, yn wir mae gennyf brofiad o weinidogaethu fel bugail eglwys am dros ddeugain mlynedd, ac yr wyf yn gwbI grediniol fod un oedfa yn ddigonol i fwyafrif mawr o'n pobl, ac yn ddigon hefyd i'r cennad ei hun fel mae'r Anglicaniaid mewn Eglwysi Cadeiriol yn ei warchod. Mater personol yw hynny ac mewn oes o brinder ni ellir deddfu na chael unffurfiaeth dim ond diolch am y 'blychau ennaint' sy'n gwarchod neges Duw a'i fab Iesu Grist mewn cymdeithas sy'n Ilwenhau am rymusterau'r Ysbryd Glan.

Gweithearwch y Gymdeithas

Gellir rhannu'r gweithgarwch i bedwar categori:
i) Yn gyntaf cydwybod yn y gymdeithas a'r genedl. Rydym yn lolvio gwleidyddion, yn llunio cenadweiau i fudiadau sy'n anghofio gwerth y Sul, ac yn magu barn ar gwestiwn y Dydd fel canolbwynt ein gweithgareddau.
ii) Yn ail gwasanaethu'r eglwysi a'r capeli trwy baratoi deunydd addas ar gyfer oedfaon y Sul. Cyhoeddwyd cyfrolau ar hyn a fu o fudd mawr ac sy'n cael eu gwerthfawrogi.
iii) Cyhoeddi cylchgrawn dwyieithog ddwywaith y flwyddyn o'r enw Etifeddiaeth / Inheritance, sydd yn cynnwys rhestr o gymwynaswyr a chyfranwyr y Gymdeithas a'r fantolen flynyddol yn ogystal ag erthyglau ar bynciau yn ymwneud a'r ffydd Gristnogol. Dylai pob eglwys sy'n cyfrannu i gyllid y Gymdeithas dderbyn y cylchgrawn hwn a gofalu fod eraill o'r aelodau yn gwybod am y dystiolaeth.
iv) Yn bedwerydd, y,gwaith addysgol, a chymer hyn llawer dull. Y mae swyddogion y Gymdeithas yn barod iawn i annerch cyfarfodydd o bob math, lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, ac yn ystod y deg mlynedd diwethaf bu Dr D Ben Rees yn annerch cyfarfodydd chwarter, Henaduriaethau, Cyngor Eglwysi Rhyddion led led Cyrnru. Golyga hyn dderbyn manteision y cyfryngau a Ilwyddwyd yn hyn o beth, ac er 1995 cynhaliwyd yn flynyddol Cymanfa'r Sul ar gyfer selogion y Gymdeithas ac fel dathliad o'n tystiolaeth eleni ar bnawn Sul, 25 Mehefin 2005 cynhaliwyd y Gymanfa yn Moriah, CasIlwchw am 2 o'r gloch a 4.15 o'r gloch a chafwyd cefnogaeth dda. Bu'r Cymanfaoedd mewn mannau cyfleus yn y de a'r gogledd a bu'r ymweliad yn dderbyniol iawn yn y cylchoedd hyn.
Bwriedir cynnal Cymanfa 2006 ar Sul, Mehefin 25 yng Nghapel Tegid Y Bala a chroesewir eto'r pererinion ynghyd.