Cymdeithas Dydd yr Arglwydd yng Nghymru
"HWN YW Y SANCTAIDD DDYDD"

The Fellowship of the Lords Day in Wales
"THIS IS THE DAY THE LORD GAVE US"


 

ADNODDAU / RESOURCES

Gwerthfawrogir Sul Heddiw

 gan D Ben Rees

Y mae gennym fel teulu Duw ddiwrnod arbennig i ddod at ein gilydd i eglwys a chapel a chynulleidfa y rhai cyfiawn.  Maer Sul yn gwbl arbennig o gychwyniad y teulu gan fod cyfrifoldeb ar y disgyblion i dderbyn gras Duw, i gofio aberth Crist y Gorchfygwr, ac i gymdeithasu yng ngrym yr Ysbryd Gln.  Hwn fur dydd o brofiadau'r Oruwch Ystafell yn Jerwsalem i ddathlu, o amgylch y bwrdd, fuddugoliaeth Crist dros angau (gweler Epistol at y Corinthiaid, pennod 16, adnodau 1 a 2).
            Dydd ydyw i ymgynnull, naill unwaith neu ddwywaith neu deirgwaith i foli a chyhoeddi a thrafod.  Ar un adeg byddem yn cynnal o leiaf oedfa bore a hwyr ac Ysgol Sul yn y prynhawn ond darfu hynny bron ymhob capel y gwn i amdano.  Ond yn yr Eglwys Fore yr oedd rhesymau eraill am yr oedfaon hyn, sef cyfle i gasglu a derbyn.  Mewn un oedfa byddid yn casglu dillad ar gyfer aelodau anghenus or gymuned ac mewn oedfa arall yn derbyn offrwm iw gyflwyno ir aelodau or gymuned oedd mewn trafferthion ariannol a thrybini.  Fe ddeuwn ni bellach at ein gilydd i ddathlu Dydd a Byd Duw, i ddiolch am Waredwr a Meseia ein Bywyd, i addunedu gwneud daioni, ac i wynebu ar y dasg o fyw yn ffyddlon i Gymru, i Grist ac in Cyd-ddyn o Llun i Sadwrn.  Cyfle felly ddwedwn i adael ir meddwl ar enaid, y corff ar ysbryd, y deall ar emosiwn gael ei adnewyddu yng nghymdeithas y credinwyr.
            Sonia awdur Epistol at yr Hebreaid, awdur Epistol at yr Hebreaid, pennod 4, adnodau 9 a 10 am orffwysfar Sabboth.  Dyma a ddywed:  Felly y mae gorffwysfar Saboth yn aros yn sicr i bobl Dduw.
            Ac y maer awdur (ai Apollo ydoedd?) yn rhoddi disgrifiad cywir i ni o beth syn oblygedig yn y profiad o fwynhau cyfarfod an Cyd-Gristnogion o amgylch allor a phulpud syn cyhoeddi gwirionedd Duw yng Nghrist.  Deuwn ynghyd, mor gyson ag y medrwn gan fod gwendid ac afiechyd corff yn medru bod yn rhwystr blin ir gorau ohonom gan fethu yn llythrennol derbyn gwahoddiad grasol Duw a ninnau mewn awydd i gydnabod ei benarglwyddiaeth ac i dderbyn arweiniad cywir yr Iesu a chysur yr Ysbryd Gln.  Rhoddodd Benjamin Francis, Bedyddiwr o Ddyffryn Teifi, air o lawenydd pur ir credadun o Gymro pan ddisgrifiodd ef ein breintiau fel aelodau o Eglwys Crist yn y byd ar bywyd hwn.  Dyma ei ddisgrifiad campus:  Gwyn fyd y dinasyddion sydd yn rhodion rhydd ar hyd-ddi, y nefol fraint i minnau rho o Dduw i drigo ynddi.  Ac ar l rhodio yn Ninas Duw clywn Grist yn ein galw iw ganlyn mewn byd, sydd yn amddifad mor aml oi gariad ai gonsyrn.  Cofiwn Fedyddiwr arall, Gwili, yn sn am y galw, Canlyn Fi.  Ac ar l ymateb 

            Minnau iti, Aer y nefoedd,
            Roddaf ddyddiau Foes;
            Rhodiaf, gyda saint yr oesoedd,
            Ffordd y Groes.

 Cysegrwn ddyddiaur wythnos ar l cynnal oed Christ yn ei gysegr.  Ni allwn ond cyflawni ei ewyllys a chyfrif ei fendithion. 

            Iesu, aethost Ti m calon;
            Fenaid cun
            Llechu syn
            Ddifrad rhwng dy ddwyfron.

 Cawsom fel cymdeithas golledion mawr yn 2009.  Crybwyllwyd eisoes enwau nifer yn Etifeddiaeth sydd bellach yn y cwmwl tystion.  Un arall ohonynt ywr Parchedig W J Griffiths, Llanelli.  Bu ef yn gysylltiedig Phwyllgor y De am ddeugain mlynedd.  Cofiaf yn dda ei gyfarfod yn un or Pwyllgorau a gynhelid yr adeg honno yng Nghaerdydd pan oedd Ysgrifennydd llawn amser gan y Gymdeithas yng Nghymru.  A bur Parchedig W J Griffiths  yn ffyddlon iw alwad ac i egwyddorion Dydd yr Arglwydd.  Talodd Huw Edwards yn ei gampwaith o gyfrol Capeli Llanelli (Caerfyrddin, 2009) deyrnged haeddiannol i ffyddlondeb W J Griffiths i Brotestaniaeth ar dystiolaeth Ymneilltuol.  Ysgrifennodd ugeiniau o lythyron imi dros y blynyddoedd a bun gefnogol a charedig yn ei air.  Gwelaf golled enfawr ar ei l a diolchwn i Dduw am ei gadw ir oedran teg o 84 mlwydd oed.  Coffa da amdano.

 

            Gwyn ei fyd sy heddiwn canu,
            Sanctaidd fry
            Wedi llwyr orchfygu.

 


Top of Page