Cymdeithas Dydd yr Arglwydd yng Nghymru
"HWN YW Y SANCTAIDD DDYDD"

The Fellowship of the Lord’s Day in Wales
"THIS IS THE DAY THE LORD GAVE US"


 

ADNODDAU / RESOURCES

Ymweliad Cofiadwy yn Shillong

Gan Margaret Jones (trysorydd y Gymdeithas)

Pan oeddwn i’n 16 mlwydd oed, penderfynais i fynd i Shillong.. Hanner can mlynedd o aros - cael addysg, priodi, magu plant, gofalu am fam dilyn gyrfa ond o’r diwedd, yn 66 oed, gwireddwyd y freuddwyd.
Ar ôl dod nôl, wedi synnu at bopeth a welais ac a brofais, ac ar gais ein hysgrifennydd, bwrw ati i ysgrifennu pwt o adroddiad. Etifeddiaeth yw enw’r cylchgrawn ac felly mae’ n addas iawn sôn am ein hetifeddiaeth a’r ffordd fe’i trosglwyddwyd i wlad bell.
Pobl hawddgar, hardd yw pobl Casia, yn ymhyfrydu yn eu hiaith a’u diwylliant ac ar yr un pryd yn ddiolchgar am bob peth yr etifeddwyd gan ein gwlad fach ni. Braint oedd cael cwrdd â nhw, a gweld y ffordd maen nhw wedi rhagori ar bopeth derbyniwyd ganddynt.
Ces i gwmni dwy Gymraes ar fy nhaith. Janice Jones o Aberaeron oedd un. Mae Janice wedi gwirfoddoli sawl gwaith o dan nawdd CWM yn Affrica, Rwmania ac ym mryniau Casia. Bu hi’n gweithio mewn cartref i blant am chwe mis, deng mlynedd yn ôl, yn gwneud gwaith clodwiw ac effeithiol iawn gyda phlant amddifad yn Shillong.
Fy nghydymaith arall oedd Bethan Richards o Abertawe. Ganed Bethan yn ysbyty Gordon Roberts yn Shillong yn ferch i ddau genhadwr. Daeth hi nôl i Gymru yn bum mlwydd oed, ond yn ei hugeiniau daliai ar gyfle i fynd nôl i ddysgu yno gyda brwdfrydedd. Ar ôl dwy flynedd o waith arbennig o dda, nôl eto i Gymru 41 mlynedd yn ôl.
Ie, Janice heb fod yno ers deng mlynedd a Bethan ers 41 o flynyddoedd! A finnau ar fy ymweliad cyntaf. Braidd byddai neb yn gwybod amdanom nag yn ein cofio. .Ond na, fe gawson ni groeso arbennig o dwym galon gan bobl oedd dim yn unig yn cofio Janice ar ôl deng mlynedd, dim yn unig yn cofio Bethan ar ôl 41 o flynyddoedd ond yn cofio mam a thad Bethan hefyd. Anhygoel!
Anhygoel yn wir oedd y profiad, gweld plant a phobl ifanc yn tyrru i’r cwrdd, gweld cynulleidfaoedd o filoedd yn ymgynnull, mynd i ffair haf a rali genhadol a gynhaliwyd i godi arian at ddathlu daucanmlwyddiant Thomas Jones, y cenhadwr cyntaf i fynd yno.
Ces i sawl profiad pen mynydd yno ac yn sicr mae’r Ysbryd Glân yn dal i weithredu yno mor rymus ac erioed. Cofiwch fryniau Casia yn eich gweddïau yn 2010. Maen nhw wedi addo gweddïo drosom ni.

A fwynheais? Do mas draw
Ydw i’n mynd nôl? Ydw, yn ddiamheuaeth.
Ewch yno ar bob cyfrif – fe gewch chi fodd byw.


 


Top of Page