Cymdeithas Dydd yr Arglwydd yng Nghymru
"HWN YW Y SANCTAIDD DDYDD"

The Fellowship of the Lords Day in Wales
"THIS IS THE DAY THE LORD GAVE US"


 

ADNODDAU / RESOURCES

Diwinydda yn Genesis

gan y Parchedig Ddr D Ben Rees

Yn ei ragair iw esboniad gwerthfawr ar Lyfr Genesis fe ddywed John Calfin y geiriau hyn:

If my readers wish to profit with me in meditating on the works of God, they must bring with them a sober, docile, mild, and humble spirit.

Gwl Calfin lyfr Genesis fel cyfrol sydd yn llawn sialens, hanesion a digwyddiadau a drosglwyddwyd o un genhedlaeth ir llall. Y traddodiad llafar yn sail ir traddodiad ysgrifenedig. Wrth weld pwynt Calfin, maen amlwg fod un gair ar goll yn ei restr ef, sef y gair dewr. Ni wn pa a ddywedodd, Biblical faith demands courage, ond y mae yn llygad ei le. Nid ar gyfer y gwan ei feddwl na gwan ei ewyllys na gwan ei galon mor Ysgrythurau, ond ar gyfer y cyfrin mewn deall, ewyllys ac ymroddiad. Y maer Ysgrythur o hyd ac o hyd am i ni feddwl o ddifrif, ni allwn eistedd i lawr yn hamddenol, cawn ein cyflyru i ystyried hanfodion mwyaf bywyd. Gwir y dywedodd y Talmud The righteous have no rest, neither in this world nor the next. Sut allwn ni orffwys ar ein rhwyfau pan mae ein cymdeithas ag angen arweiniad? Sut y gallwn ni ymlacio pan mae pobl yn dioddef o law'r greadigaeth ac o Greawdwr y Byd? Beth ywr Sul yn y Gymru gyfoes, ond protest y gweddill ffyddlon yn erbyn cymdeithas sydd wedi colli eu pennau yn siopa ac wedi mynd yn glustfyddar i lais y cennad?
Y maen amhosibl cerdded llwybrau bywyd heb gydwybod o ble y daeth y gydwybod. Dyma lais distaw Duw yn ein corff, gair arall ydyw am gyfrifoldeb a bywyd gwareiddiedig ymgais i wybod y gwahaniaeth rhwng drwg a da. Dadleua Calfin fod Adda ac Efa yn meddu ar gyfrifoldeb. Ond gwyddom yn dda nad ywr byd nan cymdeithas yn mynd i wella o gwbl heb chwyldro syn golygu, adeiladu, newid a gwella'r byd yn sgil y cyfan y Beibl yn l Genesis yw galwad Duw i gyfrifoldeb dynol. Duw syn rhydd o hualau yw Duw llyfr Genesis, Duw syn gweithredu yn hanes y rhai a alwodd ef i wasanaethu ac i adnewyddu Cyfamod ar l Cyfamod. Cawn storiu cyffrous in poeni, sef Adda ac Efa, Cain ac Abel, Noa ar Diluw a Thŵr Babel. Nid hanes sydd yma ond patrwm ar gyfer dynion a merched ym mhob oes. Athroniaeth a drama a phregethu yw hanfod yr hanesion hyn. Ar llinyn sydd yn clymur athroniaeth ar dramu cyffrous hyn yw mor barod ydan ni i roir bai ar rywun arall. Rhoddodd Adda y bai ar Efa. Ond ni ellid tawelur llais, sef y gydwybod. Nid rhyfedd i Adolf Hitler alwr gydwybod yn ddarganfyddiad Iddewig. Ond or cychwyn cyntaf cawn ein hunain yn ceisio dianc rhag ein cyfrifoldeb. Gwelwn ein hunain mewn enbydrwydd. Daw trais i anharddu ein byw. Gwelwn ein hunain yn cywilyddio am ein gilydd. Pwy oedd chywilydd o Noa? Wel ei feibion. Gwelwn Noa yn ei drachwant. Achub ei hunan ai deulu oedd ei ddymuniad pennaf a dau o bob peth byw. Ni chlywn amdano yn ceisio achub bywyd neb oi gymdogion. Nid oedd Noa yn teimlo cyfrifoldeb dros ei gyfoedion, a bun brin o eiriol drostynt. Er bod Noa yn cael ei alw yn ŵr cyfiawn, maen amlwg iddo fethu cofleidior gymuned ai fyd. Nid oes y fath beth mewn bod i Noa chyfrifoldeb syn cyfuno ei deulu ar gymdeithas gyfan. Collodd Adda baradwys. Condemniwyd Cain i grwydror byd. Dirywiodd Noa yn feddwyn. Gadawyd Tŵr Babel heb ei gwblhau. Gwelwn ddiffyg cyfrifoldeb. Bun rhaid aros i ddyfodiad y proffwydi ar proffwyd pennaf ohonynt i gyd, yr Arglwydd Iesu i newid y sefyllfa. Heb yr Iesu yr ydym ni yn sefyllfa Adda a Chain a Noa a thrigolion anhrefnus Tŵr Babel. Hel plant ar goll. Daeth Crist y Pasg a chydwybod a chyfrifoldeb yn waddol yr alwad.

 


Welsh words
William Williams, Pantycelyn


Marchog Iesu, yn llwyddiannus
Gwisg dy gleddau ngwasg dy glun;
Ni all daear dy wrthnebu,
Chwaith nag uffern fawr ei hun:
Mae dy enw mor ardderchog,
Pob rhyw elyn gilia draw;
Mae dy arswyd trwyr greadigaeth;
Tyrd am hynny maes o law.

Tyn fy enaid oi gaethiwed,
Gwawried bellach fore ddydd,
Rhwygan chwilfriw ddorau Babel,
Tyn y barrau heyrn yn rhydd:
Gwthied caethion yn finteioedd
Allan, megis tonnau llif,
Torf a thorf, dan orfoleddu,
Heb na diwedd fyth na rhif.

Minnau bellach orfoleddaf
Fod y Jiwbil fawr yn dod,
Y cyflawnir pob rhyw sillaf
A lefarodd Iesu erioed:
De a gogledd yn fyrddiynau
Ddaw o eithaf tywyll fyd,
Gyda dawns ac utgyrn arian,
Mewn i Salem bur ynghyd.


Llyfr Emynau a Thonau y
Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd
1929

 
English words by
Rev E Cynolwyn Pugh, New York City


Mighty Jesus, ride victorious, Savior,
Gird they sword for battles strong:
Earth can never dare oppose thee,
Nor can hell withstand thee long:
And thy name is so illustrious,
Every foe will flee away;
Through creation runs thy terror:
Come then, Lord, do not delay.

From its serfdom loose my spirit,
May I soon the day-dawn see,
Break in pieces Babels portals,
Every iron bar set free:
Forth let bondslaves in vast legions
Come, like floods so wild and strong,
Multitudes in endless numbers,
Praising God in glorious song.

Nor I shall rejoice in triumph
That the Jubilee draws near,
When each word that Jesus uttered
Will His trust make crystal clear:
North and South in countless millions
Come they will from earths dark shores,
With a dance and silver trumpets,
In through Salems open doors.

 

 


 

Top of Page