Cymdeithas Dydd yr Arglwydd yng Nghymru
"HWN YW Y SANCTAIDD DDYDD"

The Fellowship of the Lords Day in Wales
"THIS IS THE DAY THE LORD GAVE US"


Cymanfa'r Sui am 2014

 
Dewch i'r Gymanfa Flynyddol a gynhelir gan Gymdeithas Dydd yr Arglwydd yng Nghymru a hynny ar Sui, Mehefin 29, 2014


CYMANFA YNG NGOGLEDD CEREDIGION MEWN DAU LE GWAHANOL


OEDFA'R BORE AM 11-15 yn y MORLAN, ABERYSTWYTH.
Uywydd- Parchedig Aled Jenkins, Hwlffordd Cymerir rhan gan blant a phobl ieuainc 0 eglwysi Presbyteraidd Gogledd Ceredigion.


Daprerir lIuniaeth ar gyfer yr ymwelwyr.


OEDFA'r Prynhawn yng Nghapel y Presbyteriaid Penygarn, Bow Street am 2 o'r gloch. ar y thema Cofio 'r Cewri a luniodd y Gymru Anghydffurfiol--
Howell Harris (1714-1773) a Thomas Charles o'r Bala (1768-1814) . Traddodir y neges gan y Parchedig Athro D. Ben Rees, Lerpwl
llywydd-y Parchedig Aled Jenkins
Cymerir y defosiwn gan y Parchedigion Judith Morris a Wyn Morris.
Croeso mawr i bawb i'r Garn ac i'r Morlan.

 

Profiadau Casllwchwr

gan Bleddyn Jones

Daeth llu o garedigion y ffydd Gristnogol ynghyd ar brynhawn 26 Mehefin 2005 i gapel hanesyddol Moriah, Casllwchwr i Gymanfa'r Sul, ac yr oedd pawb yn cytuno inni dderbyn bendithion fyrdd. Braf oedd gweld nifer o ffyddloniaid cylch yr Adfa yn Sir Drefaldwyn, lle cynhaliwyd Cymanfa'r Sul yn 2004 yno, a gweinidog Capel Tegid Y Bala a'i briod, lle cynhelir Cymanfa 2006, wedi dod hefyd i gefnogi'r WyL Ond roedd ffyddloniaid y Gair dwyfol o Geredigion, Sir Benfro, Caerfyrddin, Lerpwl, Mon, Caerdydd, Llanelli, Bryste a chylch CasIlwchwr, yn cynnwys Gorseinon a Pontarddulais yno yn gryno heb anghofio dau o Gyrnry Wellington, Seland Newydd. Pan chwaraeodd Anne Rees o Gapel Moriah yr Intrada ar ddechrau cyfarfod y prynhawn yr oedd llawr y capel yn gryno lawn i'r wyl flynyddol symudol hon.
Yr oedd oedfa brynhawn i ddiolch am fywyd a gwaith y diwygiwr, Evan John Roberts (1878-195 1) a'r awenau yn nwylo diogel Mr Havard Gregory, Caerdydd, gwr a fu'n amlwg yn y cyfryngau, a mab i sylfaenydd Cymcleithas Dydd yr Arglwydd yng Nghymru, y Parchedig Richard Thomas Gregory. Roedd gwahodd Havard Gregory i lywyddu yn weithred harcid gan i'w dad fod yn ysgrifennydd cyntaf y mudiad yng Nghyrnru o 1938 hyd ei ymddeoliad yn 1950, ac yna yn gadeirydd y gymcleithas hyd ei farwolaeth yn 1968. Yr oedd cyffyrddiadau'r mab am ei dad yn werthfawr ac onid oes lle i gael cymanfa yn y dyfodol agos i gofio cyfraniad arloesol pwysig iawn R T Gregory i'r eglwys Grismogol yng Nghyrnru.
Yr oedd y defosiwn yn nwylo'r Parchg Tudor Davies, Aberystwyth, yr unig un y prynhawn hwnnw hyd y gwyddom a oedd yn arwyl Evan Robert arl1 Chwefror 1951 yng nghapel Moriah, CasIlwchwn Gwefreiddiol oedd cyflwyniadau cerddorol Helen Gibbon o Gapel Dewi ger Caerfyrddin, yn arbennig yn canu 'Gweddi Pechadur' o drefniant y ferch dalentog o Drefforest, Morfudd Llwyd Owen. Arweiniwyd y gynulleidfa ar thema Flyfryclwch y Diwygiad gan Mr Eifion Davies, Pontarddulais ac ysgrifennydd Dosbarth Abertawe o Henaduriaeth Gorllewin Morgannwg. Ac yna cyflwynwyd anerchiad cynhwysfawr ar Fywyd a Gwaith Evan Roberts gan y Parchg Ddr D Ben Rees, FR Hist S ac Ysgrifennydd Mygedol Cymdeithas Dydd yr Arglwydd yng Nghyntru. Roedd y cyflwyniad yn llawn asbri a daliodd ddiddordeb y gynulleidfa gyda'i ddadansoddiad o gefndir y diwygiwr yng NghasIlwchwr, Castellnewydd Emlyn a led led Cymru. Gobeithir y caiff y ddarlith hon ei chyhoeddi maes o law yn y dclwy iaith gan fod angen dybryd am ddehongliad teg o un o bobl ysbrydoledig yr ugeinfed ganrif. Rhoddodd Evan Roberts ei hunan yn gyfan gwbI i'r dasg o ennill pobl y byd i fywyd yr Eglwys trwy eu dysgu i yrnddiried trwy ffydd yng Nghrist Iesu a dysgodd bobl yr eglwys i fod yn genhadon dros Grist lle bynnag y'i gwelir.
Ar ol yr oedfa cafwyd cymdeithasu a lluniaeth ysgafn a baratowyd gan chwiorydd caredig Capel Moriah ar gyfer y pererinion a ddaeth ynghyd i'r Gymanfa. Am 4 o'r gloch ailgylchwynwyd trwy gynnal Cymanfa Ganu ar raj o emynau cyfarwydd y diwygiad o dan lywyddiaeth y Parchedig G Aled Jenkins, HwIffordd a Llywydd Pwyllgor y De o Gymdeithas Dydd yr Arglwydd. Roedd ganddo gysylltiadau agos gyda'r arweinydd gwadd, Mr Alan Fewster, MBE, Llangennech gan iddo ef fod yn weinidog arno yng nghapel y Bedyddwyr Salem sy'n dal yn eglwys gref o fewn Cymanfa Caerfyrddin a Cheredigion. Bedyddiw arall oedd wrth yr organ sef gweinidog capel Saesneg y Bedyddwyr, Greenfield Baptist Church yn Murray Street, Llanelli y Parchedig David Jones. Organydd medrus a di-lol yn cydweithio gydag arweinydd a oedd yn denu'r gorau o'r cantorion. Gwriaeth ef ddefnydd da hefyd o Helen Gibbon gan ei bod Wn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Caerfyrddin pan oedd Alan Fewster yn athro yno yn y chwedegau. Roedd y defosiwn o dan ofal y Parchedig Hugh Francis, gweinidog capeli'r Bedyddwyr Penuel, Casllwchwr a Seion a Noddfa, Gorseinon. Llefarwyd cerdd a brawddegau bachog o ciddo'r diwygiwr gan Mrs Eira Evans, Llansamlet a thrysorydd y gymdeithas a da oedd cael ei chwmni a'i chyfraniad. Cafwyd dehongliad gwefreiddiol o'r gerdd hen Rebel Fel Fi gan yr unawdydd Teifryn Rees, Felin-foel, Llanelli, gan ddwyn ar gof un arall o Lanelli, Sam Jenkins a elwid yn Sankey'r Diwygiad a'r gwr a fu mor gyfrifol a neb a chludo fflam y diwygiad o GasIlwchw i gapel Triniti, Llanelli ar yr ail Sul o Dachwedd 1904. Yr oedd Sarn Jenkins yn gorfoleddu ymhlith y cwmwl tystion fel ag yr oedd Evan Roberts wrth glywed Helen a Teifryn ac Alan Fewster yn denu'r gynulleidfa i ganu 'Duw mawr y rhyfeddodau maith', Myrna Feibil annwyl lesu', 'Tyred Iesu Pr anialwch', 'Mae d'eisiau di bob awr', 'Y gwr wrth Ffynnon Jacob', 'Mi glywaf dyner lais' ae emyn eneiniedig Gwilym Hiraethog, Myrna gariad fel y moroedd'. Haeddiannol oedd y ganmoliaeth a roddodd yr arweinydd i Bantycelyn ac Ieuan Gwyllt a Llawlyfr Moliant y Bedyddwyr, hwnnw yn haeddu fwy o farciau mae'n amlwg na Caneuon Ffydd!

Rhaid canmol y trefniadau o du Moriah, CasIlwchw a'r llyfryn hylaw o 18 o dudalennau a baratowyd gan ysgrifennydd y gymdeithas, Dr D. Ben Rees. Dylid nawr trefnu i ddod i Gymanfa'r Sul yn 2006 yng Nghapel Tegid, Y Bala; oedfa'r prynhawn am 3 o'r gloch a'r hwyr am 5.30 o'r gloch. Roedd y manylion ar glawr cefn llyfryn Gwasanaeth i Gofio Diwygiad 1904-05 yng Nghyniru. Thema 2006 yw Teulu Duw ac mae dyddiad 2007 wedi ei benderfynu hefyd, sef Sul, 24 Mehefin. Gwnewch eich trefniadau mewn digon o amser ac archebwch gylchgrawn y Gymdeithas Etifeddiaeth o 32 Garth Drive, Lerpwl, L 18 6HW am 2.50. Dau rifyn y flwyddyn drwy'r post sy'n fargen.


 


Sul Hudolus Soary Mynydd
gan y Golygydd

  Lluniais ysgrif ar ol y Gymanfa Sul a gynhaliwyd yn Soar y Mynydd ar Sul, 16 Mehefin 2002 i groniclo'r dydd. Ymddangosodd yr erthygl yn y Goleuad, Seren Cymru, Y Tyst, y Clone, Barcud, Yr Angor (papur bro Lerpwl a Manceinion), Barn a Cyfnod a thrwy hynny codi proffil y Gymdeithas yn fawr iawn. Diolch am y rhai a ffoniodd ac a anfonodd pwt o lythyr o wahanol rannau o'r wlad i ddiolch am yr hanes yn y papurau hyn.
  Cawsom brofi dri pheth . Y Sul fel y dylai fod. Tyrfaoedd yn addoli a moli Duw. Pregethu mewn arddeliad yn yr Ysbryd. Caiff y ddwy bregeth o eiddo y Parchedigion Desmond Davies, Caerfyrddin a J. Elwyn Jenkins, Llanbedr Font Steffan weld golau dydd yn Etifeddiaeth.
  Cafwyd cyfle i dynnu ami i lun y tu fewn a'r tu allan i Gapel gwyngalchog Soar y Mynydd o eiddo y ffotograffydd Tim Jones.


      (o'r chwith i'r dde) y Parchedigion J. Elwyn Jenkins, G. Aled Jenkins
      a Alma Roberts cyn dechrau yr oedfa
                                                                                          (Llun: Tim Jones)

  Yn ail gwelsom a'n llygaid ein hunain yr amharchu sydd ar Ddydd yr Argwydd. Thema'r Gynhadledd oedd Parch i Fywyd. Gwelsom y dydd hwnnw agweddau o'r amharch, sef cyfarfod gyda thanciau'r fyddin yn ymyl fferm Cae-bwd ar y ffordd i Soar. Sumbol o sarnu'r Sul. Pwy roddodd hawl i'r fyddin anharddu bro Apostol Heddwch Henry Richard ar ddydd yr Arglwydd? Pam? Dyna'r gofyniad. Pam amharchu'r greadigaeth? Pam amharchu'r Sul, coron bywyd y Crist ar hyd yr wythnos? Pam amharchu'r gymuned? Pam amharchu'r rhai sydd yn ceisio gwella'r byd? Fe glywsom yr atebion yn Soar ar ddiwrnod oer, gwlyb, ond gogoneddus am ein bod yn dathlu buddugoliaeth cariad dros gasineb, atgyfodiad yn hytrach na marwolaeth, bywyd newydd y ffynhonnau. Ond cyn diwedd y Gymanfa fe ddaeth y tanciau i Soar a dyma'r dystiolaeth yn y llun ar dudalen 5.


(o'r chwith i'r dde) y Parchedigion T. Hywel Mudd, Glandwr, Dr. D. Ben Rees (trefnydd yr Wyl) a Desmond Davies (Llywydd Undeb y Bedyddwyr Cymraeg)                                                                                      (Llun: Tim Jones)

  Yn drydydd cawsom ein hatgoffa fod lle o hyd i Gymanfa' r Sul yn y Gymru gyfoes. Daeth y pererinion o bob man o Gymru. Canodd y bardd gwlad Cerngoch am ffyddloniaid y capel hwn yn nyddiau'r ceffylau a cherdded o'r ffermydd mynydd.

Ar lannau Afon Camddwr
 Mae teml i'n Hiachawdwr
Pwy bynnag ddaw a thros fath dir
Rydd brawf o wir addolwr.

  Gwelsom y gwir addolwyr yn Soar wedi dod yr holl ffordd o Ynys Mon o ddinas Lerpwl, o Llanbedr Pont Steffan a'r cylch, Llandeilo, Llanfair Caereinion, Hen-dy-gwyn-ar-daf, Hwlffordd, Rhydaman a'r Betws, Caerdydd. Braf oedd gweld y bysiau bysus Gwynfor o'r Gaerwen, Formby Coaches, Brodyr James Llangeitho ac ugeiniau o geir modur o faniau teledu y Gegin Fach o Lanfihangel-ar-Arth a'r toiledau symudol (tri ohonynt) o Ffair Rhos.


         Lavinia Thomas (ar y chwith yn y Set Fawr) a'r gynulleidfa
                                                                                                    (Llun: Tim Jones)


  Rhaid gwerthfawrogi y cwbl. Y Gair, y Weddi, y Can a'r Gyrndeithas.
  Gwledd oedd gwrando ar Lavinia Thomas ac Aled Edwards (Cil-y-Cwm) ac arweiniad medrus Mrs. Delyth Hopkin Evans, Pontrhydygroes yn y Gymanfa Ganu. Gwelais y rhaglen gyntaf Hanfod (teledu digidol), gwych iawn, ac yn werth yr ymdrech o gydweithio gyda Chwmni teledu Elidir. Da oedd cael cyflwyno hefyd gyfrol o weddiau yn enw'r Gyrndeithas a son ein bod fel cyrndeithas ar y rhyngrwyd (Gweler y manylion yn y rhifyn hwn). Braf oedd cael cyrndeithasau a phawb a gymerodd ran yn ein tywys at ffynnon y dyfroedd byw. Bu'r diwrnod yn llwyddiant ysbrydol na ellir mo'i brisio. Daeth y cannoedd ynghyd a'r mwd yn baeddu ein sgidiau Sul, a'r stabl dan ei sang 'r Deml heb le i neb arall. Nefoedd ar y ddaear. Ni aeth neb yn sal. Mae'n rhaid diolch i'r gymuned yn Soar sy'n cadw drws ar agor, a phob Soar arall, mewn oes a all fod yn ddifater a di-ffrwt iawn tuag at Efengvl yr Arglwydd Iesu

 'rhad faddeuant, gwawria bellach,
gwna garcharor caeth yn rhydd,'

 oedd erfyniad Williams, Pantycelyn a fu lawer tro yn seiad Soar. Gwir v deisyfiad.


 Tanc y fyddin Brydeinig yn creu diflastod yn hedd y mynyddoedd
                                                                                             (Llun: Tim Jones)


Rhai o' r Cymry a ddaeth o Lerpwl: (chwith i'r dde) Mrs. Eryl Dooling, Mrs. Delyth Morris, Mrs. Mona Bowen, Mrs. Joyce Lewington, Dr. D. B. Rees, Miss Mair Powell, Mr. E. Goronwy Owen, Mrs. Nan Hughes-Parry, Mr. Wyn Jones a Mrs. Rhiannon Liddell.                                                            (Llun: Tim Jones)

 


 
SOAR-Y-MYNYDD

Un weddi sydd gennyf gobeithio y bydd y tywydd yn ffafriol ar Sul, 16 Mehefin pan y cawn gyfle i ddod i Gymanfar Sul yn Soar-y-Mynydd. Deil y capel tua 120 - ond gobeithiaf y daw llawer mwy na hynny i ddathlu ystyr y Sul yn hanes y Ffydd. Fel y dywed y Prifardd Einion Evans: Molwn Sant, malwn y Sul.

Dewi Sant yw Nawddsant y Cymru ac ym mhlwyf Llanddewi Brefi y saif Soar-y-Mynydd. Ond ni allwn mynd iddo drwy Llanddewi, y ddwy ffordd orau ydyw trwy sgwr Tregaron heibio cofgolofn Henry Richard neu trwy Llanymddyfri, Rhandirmwyn a chael golwg ar y Brianne. Bydd croeso mawr yn ein disgwyl yn Soar-y-Mynydd, capel mwyaf pellennig Cymru gyfan. Da y dywedodd Alwyn Thomas am soar-y-Mynydd:

Dawr nef ir capel twt

Drwy ymbil gweddi daer,

A hwyl a mawl fydd traethu sn

Am wyrthiau Mab y Saer.

Byddwch yn rhan o wyrth Mab y Saer y Sul hwnnw o Ogledd a De, Dwyrain a Gorllewin a dewch.

Croeso i gymanfa Soar-y-Mynydd yn y flwyddyn 2002

 

Gweddi

Dduw y cariad nad ywn oeri, Tad y gras nad ywn lleihau, bydd gyda ni heddiw wrth i ni ystyried cariad a myfyrio ar ddyfnderoedd yr hyn wnest ti drosom oherwydd dy gariad anhraethol dy hun tuag at y ddynoliaeth. Rydyn nin byw mewn cyfnod pan fo geiriau yn colli eu gwerth yn aml. Rydyn nin dweud bod pwdin yn fendigedig ac yn ystyried y gair cariad fel rhywbeth pinc neu goch , ar ffurf calon, syn ymrithion ysbeidiol in bywydau ar sip modrwy neu siocled neu X ar waelod cerdyn. Ond mae dy gariad di yn golygu llawer mwy nan syniadau bach daearol ni. Gad i ni ystyried yn ddwys felly yr hyn maer gair yn ei wir olygu, a boed i ryw adlewyrchiad gwan or cariad roddaist ti ar Galfaria ymddangos yn ein bywydau, yn ein henwadau ac yn ein heglwysi llegach. Yn enwr un an carodd ac a roes ei fywyd drosom, Iesu Grist yr anwylyd. Amen

 


Top of page