|
Notice Board /
Hysbysfwrdd
Cymanfa'r Sui am 2014
Dewch i'r Gymanfa Flynyddol a gynhelir gan Gymdeithas
Dydd yr
Arglwydd yng Nghymru a hynny ar Sui, Mehefin 29, 2014
CYMANFA YNG NGOGLEDD CEREDIGION MEWN DAU
LE GWAHANOL
OEDFA'R BORE AM 11-15 yn y MORLAN,
ABERYSTWYTH.
Uywydd- Parchedig Aled Jenkins, Hwlffordd Cymerir rhan
gan blant a phobl ieuainc 0 eglwysi Presbyteraidd Gogledd
Ceredigion.
Daprerir lIuniaeth ar gyfer yr ymwelwyr.
OEDFA'r Prynhawn yng Nghapel y Presbyteriaid Penygarn, Bow
Street am 2 o'r gloch. ar y thema Cofio 'r Cewri a luniodd
y Gymru Anghydffurfiol--
Howell Harris ( 1714=1773) a Thomas Charles o'r Bala
(1768-1814) . Traddodir y neges gan y
Parchedig Athro D. Ben Rees, Lerpwl
Uywydd-y Parchedig Aled Jenkins
Cymerir y defosiwn gan y Parchedigion Judith
Morris a Wyn Morris.
Croeso mawr i bawb i'r Garn ac i'r Morlan.
|
ORDER
Your
copy of Inheritance two issues (February and October)
Price
£1 (for both issues by post)
Send
to
for your copies
ARCHEBWCH
Eich
copïau o Etifeddiaeth (Chwefror a Hydref) Dau rifyn y flwyddyn.
Pris
am y ddau £1
Anfoner
yn ddiymdroi i Dr D. Ben Rees,
32
Garth Drive Liverpool L18 6HW
neu
trwy e-bost:
Gair
Cymwys
Meddwl
am bobol Cymru mae’r Prifardd Einion Evans, a gweld y dirywiad
yn eu harferion gorau, yn arbennig cadwraeth y Sul.
CYMRY
Yma,a’r Wyl yn ein hymyl,-rydym
mewn Ysbrydol helbul.
Yn lychwin genedl wachul
molwn Sant, malwn yn Sul.
Emyn
Tangnefedd
Tangnefedd
rho O Arglwydd
I deulu gwael y llawr,
Sy’n byw mewn dudew adfyd,
A llawer gyfyng awr.
A cofia Di y gwledydd
Y newyn yno sydd
,Rhai hynny mewn cadwynau
Yn rhodio eto’n rhydd.
Tra rhwd anrhydedd cleddyf
Y maes yn rhydd o waed
A therfyn ar bob rhyfel -
Tangnefedd fu’n y wlad,
Tydi
fu’n gwella cleifion,
Bendithio plant y byd-
Gwyn fyd na welwn eto
Genhedloedd oll ynghyd.
Wrth feddwl am eneidiau
Mil filoedd o rai trist,
Sydd eisoes wedi colli
Eu gafael ar y Crist
O ddysg i ninnau eto,
A dwyn ni eto nôl-
Y Bugail sy’n y gorlan,
Tangnefedd yn ei gôl.
A phan ddaw’r awr i ninnau
Ymadael draw i’r llen,
A cheefnu ar y ddaear-
Yr Arglwydd fydd yn ben.
Tangnefedd gawn pryd hynny,
Cawn wisgo coron gain,
Yr anthem bêr yn seinio,
Ddiddwedd fydd y sain
Margaret G. Griffiths Llaingoch |
Y
GORNEL WEDDI
O edrych yn awr, O
Arglwydd, ar Gymru
Gwêl hi heddiw yn nyfnder ei gwarth
Y
Saboth a roddaist yn syberwyd y
myfyrdod santaidd, nyni a’i halogodd
a’i dorri ar gylch ein holwynion.
O Arglwydd y cenhedloedd, nac
anghofia’r genedl a geraist;
Wyliwr yr holl ardaloedd, diwel dy
wlith ar Walia wen.
(Rhan o "Salm y Genedl" gan Jennie Eirian.)
M.W.J. |
Top of Page
|