Cymdeithas Dydd yr Arglwydd yng Nghymru
"HWN YW Y SANCTAIDD DDYDD"

The Fellowship of the Lords Day in Wales
"THIS IS THE DAY THE LORD GAVE US"


 

Book Reviews:

Di-Ben-Draw:  Hunangofiant D. Ben Rees, Y Lolfa, tudalennau 240 , pris 12.99

Mae gen i atgofion dyddiau ysgol o Ben Rees.  Roedd e tua tair blynedd hŷn na mi, creadur direidus, hwyliog, gwn ar ei wyneb ac yn mwynhau pryfocio nir rhai iau.  Fei cofiaf yn dda oherwydd yr oedd ei flwyddyn e yn un arbennig o ddisglaer yn hanes Ysgol Sir Tregaron, amryw o ddisgyblion a ddaethant  yn enwau adnabyddus yng Nghymru a thuhwnt mewn amryw feysydd.  Rwyn ei gofio yn dod i bregethu i Gapel Y Berth pan oedd yn fyfyriwr ac in tŷ ni y deuai i ginio neu de waeth tro pwy oedd hi i gadwr mis.  Roedd ein mamaun gyfnitherod a fy mam yn falch or cysylltiad.

  Croesodd ein llwybrau os nad ein cleddyfau - yn lled gyson dros y blynyddoedd a mae gen i grugyn o gylchgronau a llyfrau yn y tŷ y byddaf yn taro arnynt yn fynych syn dod ai enw i gof.  Mae sawl rhifyn o Aneurin, y cylchgrawn a sefydlodd ac a olygodd pan oedd yn fyfyriwr, gen i.  Hefyd Pam na ddylid crogi, pamffledyn a gyhoeddodd fel rhan or ymgyrch yn erbyn dienyddio a ysgogwyd wedi crogi Ruth Ellis.  Pan oeddwn ar staff Y Cymro yng Nghroesoswallt arferai anfon erthyglau cyson i ni o Abercynon, lle bun weinidog cyn symud i Lerpwl.

   Gwyddwn am ei egni ai frwdfrydedd fel awdur, hanesydd, cyhoeddwr a hyd yn oed fel cynhyrchydd recordiau.  Cofiaf y record gyntaf iddoi rhyddhau, gan grŵp or enw Hogiar Deulyn, er na wyddwn i ddim mai ei gwmni e gynhyrchodd record gyntaf Tebot Piws.  Sefydlodd Cyhoeddiadau Modern Cymreig yn y chwe-degau cyn oes y grantiau, a bun arloeswr ym myd cyhoeddi llyfrau plant.

   Maer gyfrol gyforiog o wybodaeth, amryw bethau oedd yn ddieithr i mi a mwy na thebyg i lawer o rai eraill.  Wyddwn i ddim, er engraifft, fod y Parch Henry Rees, Chatham Street, a Gwilym Hiraethog yn frodyr, y naill yn un o bregethwyr mawr y Methodistiaid Cymraeg ar llall yn un o arwyr y traddodiad radicalaidd Cymreig.  Ar ddau au henwau yn annatod dynn wrth hanes Cymry Lerpwl.  Fel y bu enw Rees arall - Ben yr un mor gyfystyr Lerpwl i nghenhedlaeth i.

   Bu gen i deimlad ers peth amser fod i rai or cyfrolau hunangofiannol hyn gryn werth hanesyddol, fel y bu ir nifer a gyhoeddwyd yn arbennig yng Nheredigion ym mhum a chwe-degaur ganrif ddiwetha.  Cyfrolau gan grefftwyr a gwerinwyr oedd llawer or rheini, hanes hen grefftau oedd bellach yn darfod or tir.  Mae ir cyfresi presennol hyn lawer yn gyffredin nhw.

   Pan oedd D. Ben Rees yn cychwyn yn y weinidogaeth yr oedd yn broffesiwn uchel ei pharch ai dylanwad.  I mi, a fagwyd mewn capel tra llewyrchus ond heb weinidog, ni sylweddolais cyn i mi ddarllen y gyfrol ardderchog hon, mor ganolog a dylanwadol y medrai gweinidog fod yn nhrefi a phentrefi Cymru yn y degawdau wedir Ail Ryfel Byd.  Cyfoethogwyd ac ysbrydolwyd Ben oi fagu mewn pentre ller oedd gweinidog or fath, ac aeth yntau yn ei dro i Abercynon a wedyn i Lerpwl gydai genhadaeth fawr gydag e.

  Ni ellid cael gwell nar cymdeithasegydd ynddo i gyflwynor stori hon.  Stori fyrlymus o ymgyrchu, boed dros heddwch, yn erbyn arfau niwclar neu o blaid yr Arglwydd Iesu Grist.  Stori hefyd am ŵr na fynnai fynd gydar llif poblogaidd.  Fur Blaid Lafur erioed yn or-boblogaidd yng Nheredigion, ac anodd credu fod daliadau Sosialaidd Ben yn rhy dderbyniol mewn capel Cymraeg dosbarth canol yn Lerpwl.  Ond beth bynnag ei ddaliadau, maen amlwg y medrai gydai radlonrwydd hynaws oresgyn unrhyw anhawsterau bach fel yna.

   Un cwestiwn syn codi.  Sut yn y byd y medrodd gyflawnir holl bethau hyn o fewn cwmpas un bywyd?  Dyma dalp sylweddol o hanes Lerpwl, y ddinas un adeg a elwid yn haeddiannol yn brifddinas Gogledd Cymru.  Ardderchog, ar y ddau gyfrif.

Gwyn Griffiths      


 

LLESTRI GRAS A GOBAITH:

CYMRU AR CENHADON YN INDIA

Golygydd: D.Ben Rees (Lerpwl, 2001)

Pris/Price 30

The nineteenth century saw the formation and growth of missionary movements on a world-wide scale, but especially to India, Africa and China. Churches launched their missionary societies to undertake evangelical, educational and medical work.

This finely-produced book gives a wide survey of the missionary outreach from Wales to India. It covers mainly the work of Presbyterian, Congregational and Baptist Churches. At first Presbyterian and Congregational Churches channeled their efforts through the London Missionary Society, founded in 1795. The Presbyterians founded their own Society in 1840.

All this activity in the eighteenth and nineteenth centuries is covered in this spacious work of reference written in Welsh and edited by Rev. Dr. D. Ben Rees of Liverpool. He has recruited many helpers, but the main body of the work is the outcome of his own enthusiasm and his thorough research as one of the foremost Welsh Nonconformist historians.

The book is an encyclopedia of the men and women who volunteered for missionary service. It is a thrilling record. There were scholars, doctors, teachers, ministers and nurses. There were shipwrecks with loss of life, an earthquake, breakdowns in health, some having to return home, others dying on the field.

Dr D. Ben Rees has also included substantial articles on several general topics: Gwaith Meddygol Cenhadaeth y Methodistiaid Calfinaidd yn India, Coleg Serampore, Addysg, Arloeswyr, Caniadaeth y Cysegr and more.

About five hundred names are listed in the book, all of them worthy of record, and some of outstanding fame. I name only three. First, there is Gwladys Mary Evans who worked in Durtlang as teacher and nurse, and teacher of teachers and nurses, as well as a zealous evangelist.

Second, there is Dr R. Arthur Hughes, a member of a distinguished family and known as the Schweitzer of Assam.

Third, there is Dr. Hugh Gordon Roberts, minister and medical doctor, founder of the Shillong Hospital, which won the esteem of the government of India and the reputation as a leading hospital in Assam.

Through the labours of all these missionaries the Christian Church was planted in may areas of India. Recurring place names are Assam,the Khasia Hills, the Lushai Hills, Shillong, Mizoram, Jowai, Durtlang, Sylhet and Cherrapungi. A map would be a great help to readers.

I have followed the life-stories on these 260 pages and I have felt surrounded by a great cloud of witnesses to the Faith. It is an inspiring record, a fine chapter in the wide story of the church. The Churches founded by these pioneers are still alive, and, though still a minority amid the vast Indian population, they are living witnesses to the Saviour and part of the communion of Saints. Get this book, study it, you will be enriched. (Rev Professor ) R. Buick Knox Portadown, Northern Ireland

 


 

Manylion am y Gyfrol Gymraeg
 

Golygydd: D. Ben Rees
 

Llestri Gras a Gobaith - Cymry ar Cenhadon yn India

 

Ymddiriedolaeth Gogledd Ddwyrain India - Cymru

a chyhoeddiadau Modern Cymreig Cyf.

Tudalennau 1-260. Clawr Caled

ISBN 0 - 901332 - 53 - 4

Pris 30

Gellir cael y gyfrol or siopau neu oddi wrth y Golygydd

Gobeithir cyhoeddi y gyfrol Saesneg : Vehicles of Grace and Hope,

yn ystod 2002. Daw manylion yn y flwyddyn newydd.

 

 

The English volume

 

Vehicles of Grace and Hope

 

is being prepared for the press at present and it should be ready by

 

10 January 2003

 

 


Awdur/Author: D. Densil Morgan

Cyhoeddwr/Publisher: Gwasg Prifysgol Cymru / University of Wales Press

ISBN 0708317200

Y maer Dr D. Densil Morgan yn un or ysgolheigion ynny sydd yn ysbrydoledig ac yn ddisgybledig ar yr un pryd - yn ysbrydoledig o ran ei fod wedi diffinio maes astudiaeth newydd iddoi hun, ac yn ddisgybledig o ran ei fod yn trin y maes hwnnwn drefnus. Ar maes dan sylw yma yw hanes crefyddol Cymrur ugeinfed ganrif. Rai blynyddoedd yn l cyhoeddodd gyfrol ardderchog ar Christmas Evans. Er na fynnaf ei fod wedi cefnun llwyr ar y ddeunawfed ganrif, y maen arwyddocaol taw llyfrau ar y ganrif sydd newydd fynd heibio yw ei weithiau diweddaraf bob un: Torrir Seiliau Sicr: Ysgrifau J. E. Daniel (yr atgynhyrchir y cyflwyniad yn y gyfrol newydd hon), yr astudiaeth Saesneg a gyhoeddodd (gyda Donald Allchin) ar Gwenallt, ar gyfrol orchestol The Span of the Cross (a gyhoeddwyd yn y flwyddyn 2000). Noder hefyd fod gweithiau mwy nag un o gynfyfyrwyr ymchwil Dr Morgan yn ymwneud chrefydd Cymrur ugeinfed ganrif. Ef, yn anad neb hyd yma, a geisiodd ddisgrifio, ac esbonio, camp a rhemp Cristionogaeth y Gymru wen y maged yr hynaf ar ifancaf o ddarllenwyr ynddi.

Rhemp, meddaf. Ni cheir llawer o hwnnw yma, am mai astudiaethau o hyrwyddwyr ac amddiffynwyr y ffydd sydd yn y llyfr. Pr hynny imi weithiau amau addaster ei is-deitl. Oes, y mae cryn sn am gymdeithas yr ugeinfed ganrif yn y bennod agoriadol ar D. Cynddelw Williams: caplan yn y ffosydd ydoedd ef. Yn y ffosydd hynny y bu farw nifer mawr o rinweddau cymdeithas Oes Victoria ac Oes Edward, ac ynddynt hwy y ganwyd ac y meithrinwyd nifer or syniadau ar agweddau a ddaeth yn sail i wareiddiad y cyfnod ar l 1918. Ond y mwyafrif o benodaur llyfr canolbwyntir ar greadigaethau a chyfraniadaur gwrthrychau, ar y cedyrn eu hunain. A gallair beirniaid beirniadol yn deg ofyn Pam na ddarfu ir fath wroniaid gael dylanwad tecach, cryfach ar eu cenedl? Y maer atebion yn The Span of the Cross.

Ynghyd Chynddelw Williams, trafodir Timothy Rees, a ddychwelodd i Gymru yn Esgob Llandaf yn 1931, gwr y maen dda iawn gennyf i ei adnabod; Lewis Valentine, y cyffelybir ei ymlyniad wrth y Gymru Gymraeg, Gristnogol i ymlyniad hen broffwyd wrth ei Israel; J.E. Daniel, diwinydd ac athro; Ivor Oswy Davies, diwinydd a disgybl - a dyn y tybiaf iddo gael ei gynnwys yn y llyfr oblegid ei agosatrwydd at Karl Barth yn anad unrhyw reswm arall; ac yna y ddau Annibynwr cawraidd, Pennar Davies a R. Tudur Jones, yr ysgrifennodd Densil Morgan ysgrif Saesneg yn ei gwrthgyferbynnu y llynedd. Y maer trafodaethau yn feistraidd bob un, ac yn bleser iw darllen.

Diau y tybia rhai fod y dewis yn ddewis i anghytuno ag ef. Wrth gwrs ei fod! Ble maer Archesgob Edwards ? A Miall Edwards ? Pam nad T. Glyn Thomas, ac oi flaen ef Thomas Charles Williams neu Jubilee Young? Na, ni ffitiau y patrwm Barthaidd y mae Densil Morgan mor hoff ohono. Ond ni wna rhagor nag un or cedyrn dethol hynny chwaith. Yn wir, fe ddywedir am Pennar Davies y byddai wedi cyflawni mwy petai ganddo ddidwinyddiaeth gadarnach, a gweledigaeth grefyddol lai unigolyddol - am Pennar Davies o bawb, yr ysbryd mwyaf anghyffredin (o bosib) a gerddodd goridoraur Colegau Diwinyddol erioed! ac awdur-awenydd yr oedd ei anadl yn brawf o allu Cymru fel pob cenedl i greu pobl nad ydynt yn ddyledus iw cymdeithas yn ogymaint ag yn wreichion a gododd or tn anesboniadwy y mae crefydd-a diwinyddiaeth yn neilltuol-yn gais iw garu ai esbonio.
              Derec Llwyd Morgan.


Top of Page