|
ADNODDAU / RESOURCES
Myfyrdod
‘Yna
yr Iesu a Arweiniwyd i fyny i’r
Anialwch....i’w demtio...(Mathew 4:1)
Arglwydd, cafodd dy Fab ei demtio
yn yr anialwch gan ddiafol.
Ei demtio i droi’r cerrig yn fara,
i’w fwrw ei Hun o binacl y deml,
i blygu gerbron y diafol i’w addoli.
Cawn ninnau ein temtio, Arglwydd da:
i feddwl yn unig am bethau gweledig,
i anghofio nad ar fara yn unig y bydd byw dyn,
ac anghofio’r Bara a ddaeth i waered o’r nef.
Cawn ein temtio i ddringo i binacl ein
gorchestion ein hunain,
ein peiriannau a’n hawyrennau a’n llongau gofod,
gan anghofio mai oddi wrthyt Ti y daw
pob dawn a gallu i ddeall a dyfeisio.
Cawn ein temtio i chwennych y byd a’i
deyrnasoedd a’i gyfoeth,
ac i ymgrymu i’w allu a’i rwysg,
gan anghofio nad ydym i addoli neb na dim
ond Ti, O! Arglwydd ein Duw,
nad ydym i wasanaethu neb ond Ti.
Cadw ninnau rhag cwympo, O! Arglwydd da,
fel y cadwyd dy Fab,
trwy dy Air
trwy dy nerth,
a thrwy ei Ysbryd Ef. Amen
Harri
Williams
Top of Page
|