|
Click below for
details of the new book by D Ben Rees
The Welsh in Liverpool
- A Remarkable History
Obituary:
Reverend
Eifion Wynne, Dowlais
(1937-2015)
We as the Lord's Day Fellowship
in Wales has lost one of our leaders in the sudden passing
of the Rev. Eifion Wynne on Sunday, 27 December among his
loved ones in Merthyr. He was the product of the Welsh
Baptist Chapel of Salem, Fforddlas in the Vale of Conwy,
he and his elder brother, Reverend Goronwy Wynne,
Llandovery. He thought the world of the chapel of his
boyhood, and when he completed 27 years in 2012 as
Secretary of the East Glamorganshire Baptist Association,
they presented him with a framed picture of Salem. He was
exceptionally glad.
He celebrated fifty
years in the Christian Ministry in 2015. Ordained in 1965
to be the Baptist minster in Pontrhydfendigaid in the
upper reaches of the Teifi Valley. Eifion spent eight
fruitful years in the Welsh heartland in those days of
Bont, Ffair Rhos, Swyddffynnon, some fifteen miles from
Aberystwyth.
When he moved in 1973 to
Pembrokeshire to Croesgoch, he was a fully fledged man of
faith. By then his family was complete, his daughter and
son, receiving the love of their mother and father, and
the Chapel was at the centre of the community, Over forty
years later Croesgoch Chapel is the ninth strongest chapel
in the Pembrokeshire Welsh Association, Seion, Crymych,
Bethel, Mynachlogddu, Bethlehem, Newport are in the same
bracket in membership strength.
The easy going, kind-hearted
approach of the Minister endeared him to all and sundry,
as well as his pulpit gifts of communicating the Word. In
April 1982 he accepted a call to an industrial village of
great renown for its music, culture and chapels, Dowlais
near Merthyr Tydfil. He followed the Reverend
Andreas Williams who had ministered at Caersalem for 33
years, and Eifion stayed at Dowlais for the rest of his
days. He retired from the pastorate but as he had no
successor, he ministered as before faithfully and with
panache.
He gave of his best to the
East Glamorgan Welsh Baptist Association, witnessing to a
huge decline and change linguistically. Most of the
chapels became bilingual, or English only services, except
Bethesda, Abercwmboi, where my father-in-law, Red. Arthur
G. Llewellyn, laid strong foundations, and Tabernacl,
Cardiff. The loss of his supportive wife in 2002 was hard
for him, and then he suffered a stroke some eight years
ago. He had a huge concern for the uniqueness to the
Lord's Day as the time to celebrate the Easter Victory of
his Saviour, Jesus Christ. He represented the Association
on Exective the South Wales branch of the Lord's Day
Fellowship and he was ultra faithful. He came regularly in
May and November, all
the
way from Dowlais to Aberystwyth, and we pay a tribute to
Wendy Williams which made this possible in the last seven
years. She supported wholeheartedly Eifion, Eleri and the
family. It was a treat to spend half an hour with both of
them, as well as our Chairman, Revd. Aled Jenkins and his
wife before the committees at Morlan. Eifion had a store
of anectodes from his long Ministry. It was a blessing to
hear him at prayer imploring on our Creator to relieve
Wales of its spiritual malaise. Eifion distributed our
magazine to a large circle and praised in the committees
often what the Editor had written. He was the salt of the
earth, God's ambassador, a servant of Jesus and who had
been inspired by the Holy Spirit.
We were on the same
wavelength, born the same year, and both of us stalwarts
of Welsh Nonconformity, in its years of change, decay and
disappearance. I remember him arranging a Public Meeting
in Dowlais for our Society, and I drove down from
Liverpool to address the congregation that he gathered
through his contacts with the Free Churches. He was
delighted at the response, the collection, and the
address. We were bosom friends and our Society has lost
one of its unsung heroes. We sympathise sincerely with his
daughter, Eleri (Dowlais), the son Emyr (Treharris), the
grandchildren, his brother and his friend Wendy, the whole
family, and the flock at Caersalem. It was a privilege to
know him for 50 years, and the funeral was held at his
beloved Caersalem on 13 January 2016, May the Eternal
Light be upon his soul for eternity e , Da was, da
a ffyddlon, dos i mewn i lawenydd dy
Arglwydd.
D. Ben Rees
|
For further information and to read
the review of his book,
click here
Coffâd:
Parchedig Elwyn Jenkins (1933-2013), Aberystwyth
Yn Hydref 1960
y cwrddais gyntaf gydag Elwyn, pan ddaeth o Goleg Trefeca i
Goleg Diwinyddol Aberystwyth fel myfyriwr am y weinidogaeth
gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Yr oedd wedi treulio blwyddyn
gyda’r Prifathro Trefor Owen Davies a Mrs Mabel Bickerstaff yn
Nhrefeca, ac yr oedd Elwyn yn ŵr o brofiad helaeth ac unigryw.
Fe’i ganwyd yr hynaf o wyth o blant yn Pentwyn Cottage, Pentwyn
sydd ar gyrion Cross Hands. Ei rieni yn blant sir Gâr a chafodd
ei addysg yn Ysgol Cwmgili a’r ddarpariaeth addysgol yng Nghapel
Pen-twyn a bu datgorffori yr eglwys honno yn gryn siom iddo.
Tristwch mawr i bob gweinidog ymroddgar yw clywed am gymaint o
gapeli o bob enwad yn cau led led Cymru. O’r ysgol dechreuodd
weithio yn y lofa yn niwedd 1948.
Erwau’r glo dan
loriau’r glyn – yw ei le,
Gyda’i lamp a’i erfyn;
I’w ddu
gell ni ddaw dydd gwyn,
Ni ddaw
haul yno i’w ddilyn.
Treuliodd ei
flynyddoedd cynnar ymhlith y glowyr ac y mae ei ail bennod yn ei
hunangofiant difyr, Pwll, Pêl a Phulpud (Llandysul, 2008)
o dan y teitl, ‘Talced Caled y Lofa’ yn hynod o werthfawr fel
darlun o fywyd y glowyr yng nglofa enwog Y Mynydd Mawr. Yn ei
flynyddoedd cynnar disgleiriodd ar y cae rygbi i dîm y Tymbl, ac
yna gwisgodd crys sgarlad Llanelli, cyn symud i Glwb Rygbi
Abertawe (1954-1956) a chwarae dros Gymru yng Nghaerdydd yn
erbyn y Llewod ar Sadwrn, 22 Hydref 1955. Er siom dirfawr ni
chafodd gap llawn ac arferai aml un o selogion y bêl gron ddweud
wrthyf iddo gael cam gan y ‘Big Five’. Chwaraeodd yn y Rhondda
yn y prawf cyntaf dros Gymru. Haeddai’r cap fel y dangoswyd yn
ei gêm yn erbyn Llewod, ond nid oedd ef yn ‘ddigon da’ meddai un
blaenor o Langennech ‘i snobs Caerdydd’. Yr oedd yn gryn seren
ar y cae a chafodd flynyddoedd dedwydd. Felly pan gyrhaeddodd
Elwyn y Coleg Diwinyddol yr oedd yn dod gydag ef adnoddau prin
rhyfeddol.
Deuthum yn
bennaf ffrindiau, gan y gwyddwn am ei gefndir ac yr oeddwn yn
arwain protestiadau yn erbyn apartheid yn Ne Affrig, yn
erbyn crogi llofruddion, dros Sosialaeth a Chymreictod.
Llwyddais i gael hanner y myfyrwyr i ymuno â’r Gangen Sosialaidd,
i hybu’r gweithgarwch, ac i lansio cylchgrawn er cof am Aneurin
Bevan o dan yr enw Aneurin. Gwahoddwyd Elwyn yn un o
swyddogion y cylchgrawn, a buom yn aml i brotest yn erbyn arfau
niwclear yn enw CND. Ni chollais gysylltiad ag ef pan adewais y
Coleg. Gwahoddwyd ef i’n priodas yn Aberdâr yn 1963 ac i’m
Cyfarfod Sefydlu yn Abercynon, a bûm innau yn ei gyfarfod
sefydlu ef yn Moriah, Brynaman a Brynllynfell, Cwmllynfell yn
1964.
Gwnaeth
ffrindiau a’i aelodau a’i bugeilio yn dyner. Y dyn tal, golygus
yn meddu ar galon oedd yn llawn cydymdeimlad. Nid rhyfedd iddo
roddi oriau lawer i waith Cymorth Cristnogol. Aeth holl elw ei
hunangofiant at yr elusen Cymorth Gristnogol. Bu yn aelod hynod
o werthfawr o Bwyllgor y De o Gymdeithas Dydd yr Arglwydd.
Mynychodd y Gymdeithas yn ffyddlon a’i arabedd a’i hiwmor yn
ysgafnhau y drafodaeth. Meddai ar lawer o storïau ac atgofion,
a bu yn weinidog ar un o eglwysi enwocaf yr enwad, sef y
Tabernacl, Aberystwyth, ymhlith pobl ddeallus a dylanwadol ym
mywyd y dref. Ond cadwodd urddas y pulpud a byddai’n paratoi yn
ofalus. Cafodd pobl enwog yn aelodau iddo fel Gwenallt, Dr T.
J. Davies, David Jones (Blaenplwyf), Dr Moelwyn Williams, Dr Huw
Owen, ac ar ôl iddo symud i Lanbedr Pont Steffan ddaeth Dr D.
Simon Evans, Islwyn Ffowc Elis, yr Athro Cyril Williams, Mrs
Bethan Phillips a John, Parchg Emlyn C. Jenkins (un arall a fu’n
amddiffyn hawliau’r Sul ym mywyd cymdeithas).
Ar fy nheithiau
byddwn yn galw i’w weld ef a’i deulu yn Llanbadarn Road,
Aberystwyth a Heol y Bont, Llanbedr Pont Steffan, lle y byddai
ei briod Elizabeth yn garedig ei chroeso a’r bechgyn, y tri
ohonynt, Aled, Iwan ac Emyr, a’u teuluoedd yn dod a llawer o
bleser iddo. Gellid dibynnu arno, a bu colli ei gymar dwy
flynedd yn ôl yn golled anfesuradwy. Ni fu llawer o hwyl arno
ef ar ôl hynny gan ei bod yn dibynnu llawer ar ei gilydd. Yr
oedd hi’n bartneriaeth werthfawr. Pan euthum ati i sefydlu
Ymddiriedolaeth Gogledd-Ddwyrain India-Cymru estynnais wahoddiad
iddo ddod yn aelod o Fwrdd Golygyddol yr elusen. Bodlonodd.
Byddem yn cyfarfod yn gyson yn ystafell y Gweinidog yn y
Tabernacl. Aelodau y Pwyllgor oedd y Parchedigion Stanley G.
Lewis; Stephen Morgan; D. Ben Rees; J. Elwyn Jenkins; Ieuan S.
Jones a Mr Brynmor Jones. Cynhyrchwyd gennym ddwy gyfrol hardd,
un yn Gymraeg a’r llall yn Saesneg, ar y Cenhadon o Gymru a fu
yn gwasanaethu ar gyfandir yr India o 1840 i 1970. Lansiwyd y
gyfrol yng nghapel Morfa a bu Elwyn yn gymorth mawr, ef a’i
gyfaill Terry Adams. Dyna gyfraniad pwysig arall o’i eiddo.
Gwyddwn ym
mhwyllgorau y Gymdeithas ei fod ef yn iach yn y ffydd a bod ei
feirniadaeth ar ei gyd-Gristnogion yn berthnasol. Bu ef yn
eciwmenydd o’i groth, yn arwain pererindodau i Wlad yr Iesu
gydag Eglwyswyr amlwg fel y Dr John Richards, Esgob Tyddewi.
Gwelsom ein gilydd yng Ngwlad yr Iesu, Elwyn a’i grŵp a minnau
a’m grŵp yn cymdeithasu yn ninas Jerwsalem, a hynny yn haf
1973. Rhoddodd ei ysgwydd o dan y baich wrth ad-drefnu
Presbyteriaeth Cymraeg yn nhref Aberystwyth. Talwn deyrnged i
was yr Arglwydd, a dywedaf:
Edrych nôl dros
ysgwydd amser,
gweld y
gwarchod da arnom fu,
gweld ein
hofnau’n cael eu trechu,
gwybod ydym fod
Duw o’n tu.
D. Ben Rees
GALWAD I ADDOLI AR Y SUL YN YR AMERICA
A CALL TO WORSHIP ON SUNDAYS IN
AMERICA
Cymanfoedd y Sul a drefnwyd gan Cymdeithas
Dydd yr Arglwydd
yng Nghymru o 1995 i 2010
1995
Capel Tegid y Bala ar Sul 7 Mai
1996 Capel Tegid y Bala
ar Sul 5 Mai
1997 Capel Heol China,
Llanidloes ar Sadwrn 17 Mai
1998 Carmel, Conwy ar Sul
Mai 3
1999 Capel y Drindod,
Pwllheli ar Sul 2 Mai
2000 Seilo, Llanbedr Pont
Steffan ar Sul 25 Mehefin
2001 Gohiriwyd y Gymanfa
oherwydd clwy’r traed a’r genau. Y bwriad oedd ei chynnal yn
Nyffryn Clwyd
2002 Capel Soar-y-Mynydd
ar Sul 16 Mehefin
2003 Capel y Bedyddwyr,
Blaenwaun ger Llandudoch ar Sul 29 Mehefin
2004 Capel yr Adfa ger
Llanfair Caereinion ar Sul 27 Mehefin
2005 Capel Moriah,
Casllwchwr ar Sul 26 Mehefin
2006 Capel Tegid y Bala
(o dan fendith Cyngor Cytûn y dref) ar Sul 25 Mehefin
2007 Capel Presbyteraidd
Nantgaredig, Sir Gaerfyrddin ar Sul 24 Mehefin
2008 Capel Bethel,
Heathfield Road, Lerpwl ar Sul 29 Mehefin
2009 Gohiriwyd oherwydd
anawsterau ariannol a lleoliad y Gymanfa gan i’r gweinidog
symud o’r capel a drefnwyd
2010 Capel Annibynwyr
Saron, Llangeler ar Sul 27 Mehefin
2011 Bwriedir cynnal y
Gymanfa am 3 o’r gloch a 5.30 yng Nghapel Cymraeg Seion,
Croesoswallt ar Sul 26 Mehefin
Gwybodaeth am y Cymanfaoedd
Llywyddion, Cenhadon ac Arweinwyr y Gân yng Nghymanfaoedd
Cymdeithas Dydd yr Arglwydd yng Nghymru
1. Cymanfa 1995 yn Y Bala
a) Prynhawn
Llywydd: Y Parchedig Gwilym O
Jones, Croesoswallt
Annerchiad: Mrs Marian Lloyd Jones, Rhosllanerchrugog
Patrwm y Sul i’r Ganrif Nesaf
b) Hwyr
Gweinyddiad o Sacrament Swper yr Arglwydd:
Y Parchedigion Glyn Thomas, Rheithor y Bala,
Brian M Griffiths, Capel Tegid
Gareth Huws, Capel yr Annibynwyr
2. Cymanfa 1996 yn Y Bala
a) Prynhawn
Llywydd: Y Parchedig Gwilym O Jones
Annerchiad: Dr John G Williams, Lerpwl
Tystiolaeth yr Eglwys Heddiw:
b) Hwyr
Llywydd: Y Parchedig Ddr D Ben Rees
Gweinyddiad o Sacrament Swper yr Arglwydd:
Y Parchedigion Glyn Thomas, Rheithor y Bala,
Brian M Griffiths, Capel Tegid
Gareth Huws, Capel yr Annibynwyr
Anerchaid: Y Parchedig Brian M Griffiths
3. Cymanfa 1997 yn Llanidloes
a) Prynhawn
Llywydd: Y Parchedig Ddr D Ben Rees
Annerchiad: Y Parchedig W Eifion Powell -
Y Sanctaidd a’r Brenhinol Ddydd
b) Hwyr
Gweinyddiad o Sacrament Swper yr Arglwydd:
Y Parchedigion J Pinion Jones a D Ben Rees
Anerchiad: Y Parchedig Dewi Wyn Williams, Dolgellau
4. Cymanfa 1998 yng Nghonwy
a) Prynhawn
Llywydd: Y Parchedig Gwilym O Jones
Anerchiad: Y Parchedig J Haines Davies, Hen Golwyn -
Hawliau Dydd yr Arglwydd
b) Hwyr
Neges arbennig gan Y Gwir Barchedig Alwyn Rice Jones, Archesgob
Cymru
5. Cymanfa 1999 ym Mhwllheli
a) Prynhawn
Llywydd: Y Parchedig Gwilym O Jones
Anerchaid: Ms Nia Rhosier, Pont Robert
b) Hwyr:
Llywydd: Y Parchedig Dr D Ben Rees
Gweinyddiad o Sacrament Swper yr Arglwydd:
Y Parchedig William Davies
6. Cymanfa 2000 yn Llanbedr Pont Steffan
a) Prynhawn
Llywydd: Y Parchedig Ddr D Ben Rees
Anerchiad: John Walter Williams, Y Bala
Cadwraeth y Sul a’i Oblygiadau
b) Hwyr
Llywydd: Y Parchedig J Elwyn Jenkins
Anerchiad: Y Parchedig Ddr D Ben Rees
7. Cymanfa 2001 - gohiriwyd
8. Cymanfa 2002 yn Soar y Mynydd
a) Prynhawn –
Oedfa Bregethu
Llywydd: Y Parchedig Aled G Jenkins,
Hwlffordd
Pregethwr: Y Parchedig Desmond Davies, Caerfyrddin
Unawdydd: Mrs Lavina Thomas, Llandeilo
b) Hwyr -
Oedfa o Fawl
Llywydd: Y Parchedig Dr D Ben Rees
Arweinydd: Mrs Delyth Hopkin Evans, Pontrhydygroes
9. Cymanfa 2003 yn Blaenwaun, Llandudoch
a) Prynhawn –
Oedfa Bregethu
Llywydd: Y Parchedig G Aled Jenkins
Pregethwr: Y Parchedig Tudor Davies, Aberystwyth
b) Hwyr –
Oedfa o Fawl
Llywydd: Y Parchedig Ddr D Ben Rees
Arweinydd: John S Davies, Efailwen
10. Cymanfa 2004 yn yr Adfa
a) Prynhawn –
Oedfa Bregethu
Llywydd: Y Parchedig Ddr D Ben Rees
Pregethwr: Y Parchedig Megan Williams, Dolgellau
b) Hwyr –
Oedfa o Fawl
Llywydd: Y Parchedig Ddr D Ben
Rees
Arweinydd: Mr R Ifor Griffiths, Lerpwl
Organyddes: Mrs Margaret Anwyl Williams
11. Cymanfa 2005 yn Moriah, Casllwchwr
a) Prynhawn -
Darlith - Evan Roberts a’r Diwygiad
gan Y Parchedig Ddr D Ben Rees
b) Hwyr -
Cymanfa’r Diwygiad
Llywydd: Y Parchedig G Aled Jenkins
Unawdwyr: Teifryn Rees a Helen Gibbon
Arweinydd: Alan Frewster, MBE, Llangennech
Organydd: Y Parchedig David Jones, Llanelli
12. Cymanfa 2006 yn Y Bala
a) Prynhawn
Llywydd: Y Parchedig Gwilym O Jones
Annerchiad: Y Parchedig Ddr D Ben Rees
Teulu Duw
b) Hwyr
Llywydd: Y Parchedig Ddr D Ben Rees
Gweinyddiad o Sacrament Swper yr Arglwydd:
Y Parchedig Eric Greene
Traddodwyd yr Homili gan y Parchedig Dafydd Rees Roberts,
Llanuwchllyn
13. Cymanfa 2007 yn Nantgaredig
a) Oedfa’r
Bore gyda’r plant a’r ifanc
Llywydd: Y Parchedig G Aled Jenkins
Traddodi’r Neges: D Nigel Davies
b) Oedfa’r
Prynhawn – Gymanfa Ganu
Llywydd: Y Parchedig Ddr D Ben Rees
Arweinydd: Mr Gwyn Nicholas, Ffynnon Henri
Traddodi’r Genadwri: Mr Havard Gregory, Caerdydd
14. Cymanfa 2008 yn Lerpwl
a) Prynhawn
Llywydd: Y Parchedig D Ben Rees
Anerchiad: Y Parchedig Ddr Elfed ap Nefydd Roberts, Wrecsam
Ffydd a Diwylliant
b) Hwyr
Llywydd: Yr Athro Mari Lloyd Williams,
Prifysgol Lerpwl a Chapel Waungoleugoed
Arweinydd: Mr R Ifor Griffith
Organydd: Mrs Margaret Anwyl Williams
15. Cymanfa 2009 - Gohiriwyd
16. Cymanfa 2010 yn Saron, Llangeler
a) Oedfa’r
Bore
Llywydd: Y Parchedig G Aled Jenkins
Anerchiad: Mr Nigel Davies
b) Oedfa’r
Prynhawn
Llywydd: Y Parchedig Ddr D Ben Rees
Arweinydd: Mrs Margaret Daniel, Aberporth
Cymanfa Dydd yr Arglwydd 2010
gan
y Parchg D Ben Rees
Mae disgwyl mawr yng
ngodre Ceredigion am Gymanfa’r Sul a gynhelir ar Sul 27 Mehefin
yng Nghapel Saron, Llangeler ger Llandysul yng Nghyfundeb
Ceredigion. Y mae gan yr Annibynwyr gapel arall o’r enw Seilo
yn un plwyf ond fod y capel hwnnw yn perthyn i Gyfundeb
Gorllewin Caerfyrddin. Yn rhyfeddol iawn mewn dyddiau fel ein
dyddiau ni y mae gan y ddau Gapel bob i Weinidog. Bugail Saron
(lle cynhelir y Gymanfa) yw’r Parchedig Aled Jones, MA MTh BD.
Bydd ef yn cymryd rhan yn oedfa’r prynhawn, a da fydd ei
gyfarfod gan iddo fod yn weinidog ar Eglwys Unedig Gymraeg Dewi
Sant, Toronto, ac yn dysgu yn Ne Affrig cyn derbyn galwad i
Saron, Llangeler, Carmel, Prengwyn a Soar, Penboyr yn 2009.
Gweinidog Seilo Llangeler ers 1998 yw’r Parchedig Guto Prys ap
Gwynfor, LLB, BD, Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg eleni.
Edrychwn ymlaen at ei weld yntau yn un o’n cyfarfodydd gyda’i
braidd.
Cynhelir
fel y gwyddoch ddau gyfarfod. Eleni bwriadwn ganolbwyntio ar y
plant a’r ieuenctid yn oedfa’r bore am 10.30 o’r gloch, o dan
lywyddiaeth y Parchedig Aled Jenkins, Hwlffordd, Llywydd
Pwyllgor De Cymru o’r Gymdeithas. Cymerir rhan gan ieuenctid y
for a chawn am yr eildro gwmni a chyfraniad Mr Nigel Davies, Sân
Clêr ac un a gyfrannodd yn helaeth i ieuenctid capeli Sir
Gaerfyrddin. Nid anghofir ei gyfraniad yn 2007 yn yr oedfa a
drefnwyd gan y Gymdeithas yn Nantgaredig yn Nyffryn Tywi.
Darperir
lluniaeth am bris o £3 gan chwiorydd Saron ar ein cyfer rhwng y
ddwy oedfa a disgwyliwn nifer dda i aros i’r ddarpariaeth
haelionus yma. Caiff y plant eu bwydo am ddim ond disgwylir i
ni oedolion helpu’r sefyllfa’n ymarferol.
Yna am 2
o’r gloch byddwn yn ailgyfeirio ein camrau i’r cysegr ar gyfer
oedfa i Foliannu’r Arglwydd o dan arweiniad Mrs Margaret Daniel,
Aberporth ac Ysgrifennydd Cyhoeddiadau capel enwog Blaenannerch,
lle y bu'r seraff-bregethwr, y Parchedig M P Morgan yn weinidog
am dros 60 mlynedd. Gwyddom am ddawn fawr Mrs Margaret Daniel
(wedi’r cyfan mae’n chwaer i’r athrylith a gollwyd Awst y
llynedd, y Prifardd Dic Jones, yr Hendre) fel arweinydd dau gôr
ac arweinydd cymanfaoedd canu. Y tro hwn bodlonodd BBC Radio
Cymru ddod atom i recordio’r gwasanaeth ar gyfer Caniadaeth y
Cysegr. Y mae Capel Saron wedi cydweithio â Phwyllgor Gwaith y
Gymdeithas i drefnu Cymanfa i’n hysgogi i addoli Duw yn ein
cysegr ac i’n calonogi ni oll i fod yn llawn gobaith wrth seinio
moliant i’r Arglwydd ar y dydd unigryw. Erbyn hyn crwydrodd y
Gymanfa i lawer bro, o’r Bala i Bwllheli, o Lanidloes i Lerpwl,
o Soar-y-mynydd i Siloh, Llanbedr Pont Steffan, o Blaenywaun,
Llandudoch i Gasllwchwr lle y cafodd Evan Roberts ysbryd Duw yn
ei gynnal, o Adfa yn Sir Drefaldwyn i Soar, Llangeler a
Nantgaredig. Pob un o’r bröydd hyn wedi elwa o ddyfodiad y
Gymanfa a mawr obeithiwn y cawn weld cefnogwyr y Gair a’r Gân yn
dod ynghyd ar Sul 27 Mehefin 2010 i Langeler. Lluniodd un o
weinidogion a fagwyd yn y cylch, y Parchedig John Gwilym Jones
englyn crefftus i lansio Caneuon Ffydd ddeng mlynedd yn
ôl. Mae neges yr englyn yn berthnasol i ni ym Mehefin 2010:
Cynhaeaf y
Caneuon – rown i wlad,
Rhown lyfr mewn gobeithion
Y daw Duw, drwy’r gair a’r dôn,
Eilwaith i hawlio’i chalon.
Diolch yn llu i Gymanfa
Llangeler.
Cefndir ac Amcanion
Cymdeithas Dydd yr Arglwydd yng Nghymru
Cymdeithas Dydd
yr Arglwydd Y mae
addoli yn angenrhaid i’r teulu Cristnogol a bu Cymdeithas Dydd yr
Arglwydd yn gyfrwng hybu tystiolaeth am y Sul ar hyd y
cenedlaethau. Ni fu’r flwyddyn ddiwethaf yn hawdd i’r Gymdeithas
oherwydd y sefyllfa economaidd o’n hamgylch ac yn ein cyfarfyddiad
yn Aberystwyth yn niwedd Ebrill penderfynwyd galw sylw at ein
hangen am gefnogaeth haelionuss aelodau ein heglwysi, a’n heglwysi
llawer ohonynt yn barod iawn eu cymwynas, a’r enwadau oll.
Apêl Ariannol
Dylid anfon y cyfraniadau hyn at ein Trysorydd newydd, Mrs
Margaret Jones, un o weithwyr brwd yr Eglwys Bresbyteraidd yng
nghylch Afan ac Ogwr. Dyma’r manylion lle y dylid anfon y
cyfraniadau: Mrs Margaret Jones, 2 Brockway Close, Baglan, Port
Talbot, SA12 8EL. Bydd ein Trysorydd yn falch iawn o dderbyn pob
cyfraniad er mwyn i ni gyflawni ein gwaith pwysig o gyhoeddi y
cylchgrawn dwyieithog, Etifeddiaeth. Gobeithiwn y gwel hwn olau
dydd ar ffurff cylchlythyr yn ystod haf 2009.
Gohirio Cymanfa’r Sul
Ar gair arweinwyr Capel Saron, Llangeler gohiriwyd Cymanfa Sul
2009 i 2010, a bodlonodd Pwyllgor Gwaith y Cymdeithas. Bydd y
Gymanfa 2010 yn cael ei chynnal ar Sul, 27 Mehefin yn Llangeler.
Dwy oedfa. Y boe am 10.30 o’r gloch yng nghwmni’r plant a’r
ieuenctid, yna cyfle i gymdeithasu a mwynhau lluniaeth cyn mynchu
y Gymanfa Ganu am 2 o’r gloch. Da oedd cael cwmni tri o selogion
Capel Saron yn ein cyfarfyddiad i drafod y weledigaeth a byddwn yn
cadarnhau yr holl drefniadau yn ein cyfarfyddiad ym mis Tachwedd.
Dymuno’n dda
Dymunwn yn dda i’r Parchedig Eifion Wynne, Dowlais ar ôl ei
waeledd gan ein bod yn gweld ei golli yn fawr o’n plith. Ef yw
Ysgrifennydd derbynadwy Cymanfa Dwyrain Morgannwg o Undeb
Bedyddwyr Cymru. Gwasanaethodd gapeli Cymraeg ei enwad yn Dowlais
ers 1982. ‘Da was, da a fyddlon’ ydyw ym mhob cylch o’n
tystiolaeth i Grist, gan gynnwys y Gymdeithas hon.
D Ben Rees
(Ysgrifennydd Mygedol)
Cefndir
SefydIwyd y Gymdeithas yn y tridegau ac am flynyddoedd bu gan y
Gymcleithas ysgrifennydd llawn amser. Y Parchg R T Gregory oedd y
sylfaenydd ac fe'i dilynwyd gan y Parchg Trefor Griffiths a
chafodd y Gymcleithas gefnogaeth gref dros y blynyddoedd. Deil y
Gymcleithas yn weithgar ond y mae hi'n fwy anodd o lawer erbyn hyn
i gael y gefnogaeth a deilynga. Er hynny mae gan y Gymdeithas
weinidogion a lleygwyr yn y de a'r gogledd sydd yn barod i
wasanaethu'n gydwybodol. Cynhelir Pwyllgor y De Mwywaith y
ftwyddyn ym mis Ebrill neu Mai yn Abertawe ac yrn mis Hydref neu
Dachwedd yn Aberystwyth. Bydd Pwyllgor y Gogledd bob amser yn
cyfarfod ym mis Mehefin yn y Bala. Gwasanaetha'r Parchg G. Aled
Jenkins, HwIffordd yn Gadeirydd Pwyllgor y De a'r Parchg Gwilym 0.
Jones, Croesoswallt fel Cadeirydd Pwyllgor y Gogledd. Gofelir am y
drysoryddiaeth gan Mrs Eira Evans, Llansamlet a'r ysgrifennydd ar
gyfer Cyrnru gyfan yw'r Parchg Ddr D Ben Rees.
Athroniaeth y Mudiad
Credodd y Gymcleithas o'r cychwyn fod dydd cyntaf yr wythnos, y
Sul, yn ddiwrnod pwysig i bob Cristion ac i'r gymcleithas
Gristnogol. Credwn yn gyntaf mai diwrnod yn rhydd o waith ydyw, ac
er 1992 bu hi'n drist i weld siopau a masnachdai yn anghofio un o
hanfodion y Sul. Ordeiniodd Duw orffwys a llawenydd a hamddena yn
ogystal A gwaith a gorchwyl busnes. Y mae'r naill mor bwysig Wr
llall, a'r naill yn angenrheidiol Pr llall. Ni ellir gorffwys na
hamddena heb weithio na gweithio heb orffwys a hamddena, y mae'r
ddau yn hanfodol i'w gilydd.
Yn ail, diwrnod i wneuthur daioni. Dyna ydyw pob ~ diwrnod o dan
benarglwyddiaeth Duw ond y mae'r Sul yn unigryw. Y ffordd orau i
gadw'r Dydd fel ag y dylid ydyw edrych ar esiampl yr Arglwydd lesu
ei bun, Arglwydd y Dydd. Ni chredai Iesu y dylid troPr Dydd yn
ddydd heb gyflawni iachfid ar y person oedd mewn angen, ac ni
chredai y dylid gadael i anifail foddi yn y ffos am y byddai'n
anghywir ei godi allan o'i gyflwr enbydus. Ta faint gwell gan
hynny ydyw dyn na dafad?' Telly rhydd yw gwneuthur yn dda ar y
Sabathau.' Dyma ni gyda rheol euraidd Dydd yr Arglwydd - gwneud
daioni Duw yn nhir y rhai byw. Da yw mynd Pr cysegr ar y Sul, a
phob adeg, ond godidocach yw gwneud daioni i'r anghenus sydd yn
galw am yrnwared.
Gwir y byddai'r lesu yn mynychu 'ty' cwrdd', y Synagog ar y Saboth,
ond cofier hefyd ei fod yn mynd am dro trwy'r caeau yd gyda'i
ddisgyblion, yn caniatau iddynt dynnu'r tywys wrth fynd heibio'r
gwenith, ac yn eu harriddiffyn rhag y beirniaid am wneud hynny
trwy ddweud fod y Saboth wedi ei wneuthur er mwyn dyn, a'i fod Ef
ei Hun yn Arglwydd ar y Saboth, a phe buasai tynnu'r tywys yn
bechod, yn sier, fuasai Arglwydd y Dydd ddim yn caniatau i'w
ddisgyblion ei Hun gyflawni hynny.
Yn drydydd diwrnod i addoli Duw. Dydd Duw ydyw, dydd i gyflwyno
ein diolchgarwch, i gael ein hysbrydoli gan Air Duw, i foliannu ae
i weddio, i hyfforddi'r plant a chysuro a golew ac ysbrydoli'r
oedolion. Cyfle i weinyddu'r sacramentau a chyfle i gyhoeddi'r
newyddion da. Amcan uchaf pregethu yw dysgu ac argyhoeddi ac
adeiladu pobl Dduw. Nid oes rhaid cynnal dwy oedfa, yn wir mae
gennyf brofiad o weinidogaethu fel bugail eglwys am dros ddeugain
mlynedd, ac yr wyf yn gwbI grediniol fod un oedfa yn ddigonol i
fwyafrif mawr o'n pobl, ac yn ddigon hefyd i'r cennad ei hun fel
mae'r Anglicaniaid mewn Eglwysi Cadeiriol yn ei warchod. Mater
personol yw hynny ac mewn oes o brinder ni ellir deddfu na chael
unffurfiaeth dim ond diolch am y 'blychau ennaint' sy'n gwarchod
neges Duw a'i fab Iesu Grist mewn cymdeithas sy'n Ilwenhau am
rymusterau'r Ysbryd Glan.
Gweithearwch y Gymdeithas
Gellir rhannu'r gweithgarwch i bedwar categori:
i) Yn gyntaf cydwybod yn y gymdeithas a'r genedl. Rydym yn lolvio
gwleidyddion, yn llunio cenadweiau i fudiadau sy'n anghofio gwerth
y Sul, ac yn magu barn ar gwestiwn y Dydd fel canolbwynt ein
gweithgareddau.
ii) Yn ail gwasanaethu'r eglwysi a'r capeli trwy baratoi deunydd
addas ar gyfer oedfaon y Sul. Cyhoeddwyd cyfrolau ar hyn a fu o
fudd mawr ac sy'n cael eu gwerthfawrogi.
iii) Cyhoeddi cylchgrawn dwyieithog ddwywaith y flwyddyn o'r enw
Etifeddiaeth / Inheritance, sydd yn cynnwys rhestr o gymwynaswyr a
chyfranwyr y Gymdeithas a'r fantolen flynyddol yn ogystal ag
erthyglau ar bynciau yn ymwneud a'r ffydd Gristnogol. Dylai pob
eglwys sy'n cyfrannu i gyllid y Gymdeithas dderbyn y cylchgrawn
hwn a gofalu fod eraill o'r aelodau yn gwybod am y dystiolaeth.
iv) Yn bedwerydd, y,gwaith addysgol, a chymer hyn llawer dull. Y
mae swyddogion y Gymdeithas yn barod iawn i annerch cyfarfodydd o
bob math, lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, ac yn ystod y deg
mlynedd diwethaf bu Dr D Ben Rees yn annerch cyfarfodydd chwarter,
Henaduriaethau, Cyngor Eglwysi Rhyddion led led Cyrnru. Golyga hyn
dderbyn manteision y cyfryngau a Ilwyddwyd yn hyn o beth, ac er
1995 cynhaliwyd yn flynyddol Cymanfa'r Sul ar gyfer selogion y
Gymdeithas ac fel dathliad o'n tystiolaeth eleni ar bnawn Sul, 25
Mehefin 2005 cynhaliwyd y Gymanfa yn Moriah, CasIlwchw am 2 o'r
gloch a 4.15 o'r gloch a chafwyd cefnogaeth dda. Bu'r Cymanfaoedd
mewn mannau cyfleus yn y de a'r gogledd a bu'r ymweliad yn
dderbyniol iawn yn y cylchoedd hyn.
Bwriedir cynnal Cymanfa 2006 ar Sul, Mehefin 25 yng Nghapel Tegid
Y Bala a chroesewir eto'r pererinion ynghyd.
|