Book Reviews:
The
Forthcoming Book from the Lolfa Press
Hardback and softback
To be launched later on this year—order your
copy from
D.Ben Rees
Perl o gofiant sylweddol i un o arweinwyr
amlycaf yr undebau llafur yng Nghymru
Adolygiad Dr J. Graham Jones o D. Ben Rees, Cofiant Mabon:
Eilun Cenedl y Cymry a'r Glowyr. Cyhoeddiadau Modern Cymraeg.
£15 (clawr meddal).
Er bod gan William Abraham, neu Mabon (1842-1922) i ddefnyddio ei
enw barddol poblogaidd a ddefnyddid yn arbennig ar lwyfannau'r
Eisteddfod Genedlaethol am flynyddoedd lawer, rôl ganolog ym mywyd
diwydiannol a gwleidyddol cymoedd de Cymru am flynyddoedd meithion,
y tro olaf y cyhoeddwyd cofiant cyflawn iddo oedd gwaith safonol
E. W. Evans, arbenigwr amlwg ar hanes maes glo de Cymru ac
undebaeth lafur yno ar y pryd, yn Saesneg yn y flwyddyn 1959.
Mae'n ddyletswydd arnom felly i roi croeso brwdfrydig i gyfrol
newydd, llawer helaethach y Dr D. Ben Rees, ysgolhaig a luniodd
cofiannau safonol, hynod uchel eu parch dros y blynyddoedd olaf
hyn i nifer o wleidyddion pwysig yng Nghymru gan gynnwys Jim
Griffiths, Cledwyn Hughes, Aneurin Bevan a Gwilym Prys Davies, a'r
awdur dysgedig yntau yn adnabod pob un o'r cewri hyn yn bur dda yn
bersonol.
Ond roedd cyfraniad allweddol Mabon (gŵr a fu farw cyn i Ben Rees
gael ei eni hyd yn oed) wrth gwrs wedi digwydd yn ystod cyfnod
llawer cynt na'r cyfeillion eraill hyn. Arbennig o addas yw'r
ffaith i'r awdur lunio'r cofiant hwn yn union ganrif grwn ar ôl
marwolaeth ei eilun yn ystod cyfnod pan roedd Mabon wedi mynd yn
dipyn bach o angof ymhlith y Cymry. Roedd Mabon yn ei anterth yn
bennaf yn ystod y blynyddoedd rhwng 1880 a 1910. Ar ôl hynny wrth
gwrs David Lloyd George oedd prif eilun gwleidyddol ein cenedl am
flynyddoedd ar eu hyd.
Fel sydd yn amlwg o'r llyfryddiaeth lawn a manwl (gweler tt.
296-332 o fewn y gyfrol), ymchwiliodd yr awdur yn eithriadol fanwl
i gywain deunydd ar gyfer y cofiant cynhwysfawr hwn.
O fewn y penodau cynnar cawn gyfle i ddarllen manylion blasus,
dadlennol am fagwraeth Mabon yng Nghwmafan a'i fam weddw, oedd yn
ffigwr arbennig o bwysig yn ei fywyd cynnar, yn ei chael hi'n
anodd dros ben i gael dau ben llinyn ynghyd am flynyddoedd lawer.
Oherwydd tlodi enbyd ar yr aelwyd, nid oedd dewis gan y mab ond i
fynd i weithio pan yn ddeng mlwydd oed yn unig fel un o geidwaid
drysau'r pwll glo. Roedd amodau gwaith o fewn y pyllau glo yn
eithriadol galed yn ystod y cyfnod cynnar hwnnw, ac yn gynnar iawn
yn ei yrfa datblygodd Mabon y ddawn a'r awydd i sefyll i fyny dros
rhai o'i gydweithwyr oedd yn ei farn ef yn cael cam gan y rheolwyr
glo hunanol, di-ildio ac ansensitif dros ben. Oherwydd ei
gyfraniad yn y maes hwn, nid oedd modd iddo barhau mewn swydd o
fewn y pyllau glo lleol.
Yn y flwyddyn 1861 priododd â Sarah, merch gof Cwmafan, a bu
iddynt ddim llai na chwech o blant. Bu hi farw'n gynamserol ym
1900. Ers yn fachgen bach, roedd Mabon yntau yn Fethodist
Calfinaidd pybyr gyda llais tenor gwych iawn. Mor gynnar â 1857
dewiswyd ef yn flaenor y gân o fewn capel CM y Tabernacl. Ac o
fewn pennod 12 yn y gyfrol hon cawn gyfle i ddarllen am gyfraniad
Mabon fel 'capelwr selog', di-ildio ar hyd ei oes ac fel un oedd
hefyd yn hynod driw ei gefnogaeth i eisteddfodau cenedlaethol a
lleol fel ei gilydd. Yn herwydd ei gorff cadarn a'i lais
cyrhaeddgar daeth yn enwog fel arweinydd effeithiol yn
eisteddfodau diwedd y 19eg a dechrau'r 20fed ganrif. Dyna'r cyfnod
yr oedd tyrfaoedd mawrion yn tyrru i'r eisteddfodau. Gan ei fod
wedi ei ddonio â llais tenor clir, canai yn fynych i'r
cynulleidfaoedd a'u plesio'n arw.
I geisio adfer ei yrfa, mentrodd Mabon i wlad Chile yn Ne America,
ond ofer fu'r ymgais ffôl hwnnw. Dychwelodd adref a sicrhaodd
swydd o fewn pwll glo Waunarlwydd. Chwaraeodd ran bwysig yn
sefydlu'r undeb sef yr Amalgamated Association of Miners ac yn
fuan derbyniodd swydd llawn amser fel swyddog undeb, gan symud i
fyw yn y Rhondda. Enillodd barch aruthrol yn lleol, yn fwyaf
arbennig ymhlith y glowyr lleol, oherwydd ei allu i setlo pob
anghydfod neu anghydweld heb orfod troi at streic, a hynny'n
ymestyn o anghydfod 1885 hyd at streic enwog Tonypandy ym 1910-12
(gweler pennod 9 yma). Ef oedd llywydd y glowyr ar y 'Joint
Sliding Scale Association ' o 1875 hyd ei ddiwedd yn 1903. Ni
weithiai'r glowyr ar ddydd Llun cyntaf y mis o 1892 i 1898, er
mwyn cwtogi cynnyrch a sefydlogi cyflogau. Galwyd y dydd hwn yn 'Ddiwrnod
Mabon'.
Ac yn sedd etholaethol newydd y Rhondda etholwyd William Abraham
i'r senedd ar 3 Rhagfyr 1885. Daliodd i gynrychioli etholaeth y
Rhondda am 35 o flynyddoedd ar eu hyd, gan fabwysiadu'r label
gwleidyddol 'Lib-Lab' yn y man ac yna ymuno â'r Blaid Lafur. Mabon
oedd yr aelod cyntaf o'r dosbarth gweithiol i gynrychioli
etholaeth yng Nghymru yn y senedd. Enillodd statws byd-eang, a
hwyliodd i'r Unol Daleithiau ym 1901 ac eto ym 1905 lle
dderbyniodd groeso tywysogaidd, eithriadol o gynnes gan y
brodorion. Arwydd o'r parch enfawr oedd iddo oedd y gwahoddiad a
dderbyniodd i ymuno a'r Cyfrin Gyngor yn y flwyddyn 1911.
Ac yn ystod cyfnod cynnar y Rhyfel Mawr daeth Mabon, gŵr a fu'n
heddychwr brwd drwy gydol y blynyddoedd, yn dipyn o 'ryfelgi' yn
rhannol er mwyn plesio Lloyd George, eilun y genedl ar y pryd.
Roedd yn gyfrifol am anfon dim llai na 40,000 o lowyr i ymladd ar
faes y gad, cyfanswm uwch na'r Dr John Williams, Bryn Siencyn hyd
yn oed. Ac yn ystod blynyddoedd y rhyfel daeth William Abraham yn
ŵr eithriadol o gefnog. Pan fu farw yn ystod mis Mai 1922, ac
yntau yn 79 mlwydd oed erbyn hynny ac yn llawn parch ac
anrhydeddau, gadawodd swm o £38,000 yn ei ewyllys (tua hanner
miliwn o bunnoedd yn ôl arian heddiw) – er mawr syndod i nifer
fawr o'i gyfeillion a'i ddilynwyr. Cofir amdano'n bennaf heddiw
oherwydd ei gyfraniad aruthrol fel arweinydd yr undebau llafur yn
hytrach na fel gwleidydd proffil uchel amlwg.
Di-Ben-Draw: Hunangofiant D. Ben Rees, Y Lolfa, tudalennau 240
, pris £12.99
Mae gen i atgofion dyddiau ysgol o Ben Rees. Roedd
e tua tair blynedd hŷn na mi, creadur direidus, hwyliog, gwên ar
ei wyneb ac yn mwynhau pryfocio ni’r rhai iau. Fe’i cofiaf yn dda
oherwydd yr oedd ei flwyddyn e yn un arbennig o ddisglaer yn hanes
Ysgol Sir Tregaron, amryw o ddisgyblion a ddaethant yn enwau
adnabyddus yng Nghymru a thuhwnt mewn amryw feysydd. Rwy’n ei
gofio yn dod i bregethu i Gapel Y Berth pan oedd yn fyfyriwr ac
i’n tŷ ni y deuai i ginio neu de waeth tro pwy oedd hi i gadw’r
mis. Roedd ein mamau’n gyfnitherod a fy mam yn falch o’r
cysylltiad.
Croesodd ein llwybrau – os nad ein cleddyfau - yn
lled gyson dros y blynyddoedd a mae gen i grugyn o gylchgronau a
llyfrau yn y tŷ y byddaf yn taro arnynt yn fynych sy’n dod a’i enw
i gof. Mae sawl rhifyn o Aneurin, y cylchgrawn a sefydlodd ac a
olygodd pan oedd yn fyfyriwr, gen i. Hefyd Pam na ddylid crogi,
pamffledyn a gyhoeddodd fel rhan o’r ymgyrch yn erbyn dienyddio a
ysgogwyd wedi crogi Ruth Ellis. Pan oeddwn ar staff Y Cymro yng
Nghroesoswallt arferai anfon erthyglau cyson i ni o Abercynon, lle
bu’n weinidog cyn symud i Lerpwl.
Gwyddwn am ei egni a’i frwdfrydedd – fel awdur,
hanesydd, cyhoeddwr a hyd yn oed fel cynhyrchydd recordiau.
Cofiaf y record gyntaf iddo’i rhyddhau, gan grŵp o’r enw Hogia’r
Deulyn, er na wyddwn i ddim mai ei gwmni e gynhyrchodd record
gyntaf Tebot Piws. Sefydlodd Cyhoeddiadau Modern Cymreig yn y
chwe-degau cyn oes y grantiau, a bu’n arloeswr ym myd cyhoeddi
llyfrau plant.
Mae’r gyfrol gyforiog o wybodaeth, amryw bethau
oedd yn ddieithr i mi a mwy na thebyg i lawer o rai eraill.
Wyddwn i ddim, er engraifft, fod y Parch Henry Rees, Chatham
Street, a Gwilym Hiraethog yn frodyr, y naill yn un o bregethwyr
mawr y Methodistiaid Cymraeg a’r llall yn un o arwyr y traddodiad
radicalaidd Cymreig. A’r ddau a’u henwau yn annatod dynn wrth
hanes Cymry Lerpwl. Fel y bu enw Rees arall - Ben – yr un mor
gyfystyr â Lerpwl i ’nghenhedlaeth i.
Bu gen i deimlad ers peth amser fod i rai o’r
cyfrolau hunangofiannol hyn gryn werth hanesyddol, fel y bu i’r
nifer a gyhoeddwyd yn arbennig yng Nheredigion ym ’mhum a
chwe-degau’r ganrif ddiwetha. Cyfrolau gan grefftwyr a gwerinwyr
oedd llawer o’r rheini, hanes hen grefftau oedd bellach yn darfod
o’r tir. Mae i’r cyfresi presennol hyn lawer yn gyffredin â nhw.
Pan oedd D. Ben Rees yn cychwyn yn y
weinidogaeth yr oedd yn broffesiwn uchel ei pharch a’i dylanwad.
I mi, a fagwyd mewn capel tra llewyrchus ond heb weinidog, ni
sylweddolais cyn i mi ddarllen y gyfrol ardderchog hon, mor
ganolog a dylanwadol y medrai gweinidog fod yn nhrefi a phentrefi
Cymru yn y degawdau wedi’r Ail Ryfel Byd. Cyfoethogwyd ac
ysbrydolwyd Ben o’i fagu mewn pentre lle’r oedd gweinidog o’r
fath, ac aeth yntau yn ei dro i Abercynon a wedyn i Lerpwl gyda’i
genhadaeth fawr gydag e.
Ni ellid cael gwell na’r cymdeithasegydd ynddo i
gyflwyno’r stori hon. Stori fyrlymus o ymgyrchu, boed dros
heddwch, yn erbyn arfau niwclïar neu o blaid yr Arglwydd Iesu
Grist. Stori hefyd am ŵr na fynnai fynd gyda’r llif poblogaidd.
Fu’r Blaid Lafur erioed yn or-boblogaidd yng Nheredigion, ac anodd
credu fod daliadau Sosialaidd Ben yn rhy dderbyniol mewn capel
Cymraeg dosbarth canol yn Lerpwl. Ond beth bynnag ei ddaliadau,
mae’n amlwg y medrai gyda’i radlonrwydd hynaws oresgyn unrhyw
anhawsterau bach fel yna.
Un cwestiwn sy’n codi. Sut yn y byd y medrodd
gyflawni’r holl bethau hyn o fewn cwmpas un bywyd? Dyma dalp
sylweddol o hanes Lerpwl, y ddinas un adeg a elwid – yn
haeddiannol – yn brifddinas Gogledd Cymru. Ardderchog, ar y ddau
gyfrif.
Gwyn Griffiths
LLESTRI GRAS A GOBAITH:
CYMRU A’R CENHADON YN
INDIA
Golygydd: D.Ben Rees (Lerpwl,
2001)
Pris/Price £30
The nineteenth
century saw the formation and growth of missionary movements
on a world-wide scale, but especially to India, Africa and
China. Churches launched their missionary societies to
undertake evangelical, educational and medical work.
This finely-produced
book gives a wide survey of the missionary outreach from Wales
to India. It covers mainly the work of Presbyterian,
Congregational and Baptist Churches. At first Presbyterian and
Congregational Churches channeled their efforts through the
London Missionary Society, founded in 1795. The Presbyterians
founded their own Society in 1840.
All this activity in
the eighteenth and nineteenth centuries is covered in this
spacious work of reference written in Welsh and edited by Rev.
Dr. D. Ben Rees of Liverpool. He has recruited many helpers, but
the main body of the work is the outcome of his own enthusiasm
and his thorough research as one of the foremost Welsh
Nonconformist historians.
The book is an encyclopedia
of the men and women who volunteered for missionary service. It
is a thrilling record. There were scholars, doctors, teachers,
ministers and nurses. There were shipwrecks with loss of life,
an earthquake, breakdowns in health, some having to return home,
others dying on the field.
Dr D. Ben Rees has
also included substantial articles on several general topics: Gwaith
Meddygol Cenhadaeth y Methodistiaid Calfinaidd yn India, Coleg
Serampore, Addysg, Arloeswyr, Caniadaeth y Cysegr and more.
About five hundred
names are listed in the book, all of them worthy of record, and
some of outstanding fame. I name only three. First, there is
Gwladys Mary Evans who worked in Durtlang as teacher and nurse,
and teacher of teachers and nurses, as well as a zealous
evangelist.
Second, there is Dr
R. Arthur Hughes, a member of a distinguished family and known
as the Schweitzer of Assam.
Third, there is Dr.
Hugh Gordon Roberts, minister and medical doctor, founder of the
Shillong Hospital, which won the esteem of the government of
India and the reputation as a leading hospital in Assam.
Through the labours
of all these missionaries the Christian Church was planted in
may areas of India. Recurring place names are Assam,the Khasia
Hills, the Lushai Hills, Shillong, Mizoram, Jowai, Durtlang,
Sylhet and Cherrapungi. A map would be a great help to readers.
I have followed the
life-stories on these 260 pages and I have felt surrounded by a
great cloud of witnesses to the Faith. It is an inspiring
record, a fine chapter in the wide story of the church. The
Churches founded by these pioneers are still alive, and, though
still a minority amid the vast Indian population, they are
living witnesses to the Saviour and part of the communion of
Saints. Get this book, study it, you will be enriched.
(Rev Professor ) R. Buick
Knox Portadown, Northern Ireland
Manylion
am y Gyfrol Gymraeg
Golygydd:
D. Ben Rees
Llestri
Gras a Gobaith - Cymry a’r Cenhadon yn India
Ymddiriedolaeth
Gogledd Ddwyrain India - Cymru
a
chyhoeddiadau Modern Cymreig Cyf.
Tudalennau
1-260. Clawr Caled
ISBN
0 - 901332 - 53 - 4
Pris
£30
Gellir
cael y gyfrol o’r siopau neu oddi wrth y Golygydd
Gobeithir
cyhoeddi y gyfrol Saesneg : Vehicles of Grace and
Hope,
yn
ystod 2002. Daw manylion yn y flwyddyn newydd.
|
The
English volume
Vehicles
of Grace and Hope
is
being prepared for the press at present and it should be
ready by
10 January
2003
|
Awdur/Author: D. Densil Morgan
Cyhoeddwr/Publisher: Gwasg Prifysgol Cymru
/ University of Wales Press
ISBN 0708317200
Y mae’r Dr D. Densil Morgan
yn un o’r ysgolheigion ynny sydd yn ysbrydoledig ac yn
ddisgybledig ar yr un pryd - yn ysbrydoledig o ran ei fod wedi
diffinio maes astudiaeth newydd iddo’i hun, ac yn ddisgybledig
o ran ei fod yn trin y maes hwnnw’n drefnus. A’r maes dan
sylw yma yw hanes crefyddol Cymru’r ugeinfed ganrif. Rai
blynyddoedd yn ôl cyhoeddodd gyfrol ardderchog ar Christmas
Evans. Er na fynnaf ei fod wedi cefnu’n llwyr ar y ddeunawfed
ganrif, y mae’n arwyddocaol taw llyfrau ar y ganrif sydd
newydd fynd heibio yw ei weithiau diweddaraf bob un: Torri’r
Seiliau Sicr: Ysgrifau J. E. Daniel (yr
atgynhyrchir y ‘cyflwyniad’ yn y gyfrol newydd hon), yr
astudiaeth Saesneg a gyhoeddodd (gyda Donald Allchin) ar
Gwenallt, a’r gyfrol orchestol The Span of the Cross
(a gyhoeddwyd yn y flwyddyn 2000). Noder hefyd fod
gweithiau mwy nag un o gynfyfyrwyr ymchwil Dr Morgan yn ymwneud
â chrefydd Cymru’r ugeinfed ganrif. Ef, yn anad neb hyd yma,
a geisiodd ddisgrifio, ac esbonio, camp a rhemp Cristionogaeth y
‘Gymru wen’ y maged yr hynaf a’r ifancaf o ddarllenwyr
ynddi.
Rhemp, meddaf. Ni cheir
llawer o hwnnw yma, am mai astudiaethau o hyrwyddwyr ac
amddiffynwyr y ffydd sydd yn y llyfr. Pâr hynny imi weithiau
amau addaster ei is-deitl. Oes, y mae cryn sôn am gymdeithas yr
ugeinfed ganrif yn y bennod agoriadol ar D. Cynddelw Williams:
caplan yn y ffosydd ydoedd ef. Yn y ffosydd hynny y bu farw
nifer mawr o rinweddau cymdeithas Oes Victoria ac Oes Edward, ac
ynddynt hwy y ganwyd ac y meithrinwyd nifer o’r syniadau a’r
agweddau a ddaeth yn sail i wareiddiad y cyfnod ar ôl 1918. Ond
y mwyafrif o benodau’r llyfr canolbwyntir ar greadigaethau a
chyfraniadau’r gwrthrychau, ar y cedyrn eu hunain. A gallai’r
beirniaid beirniadol yn deg ofyn ‘Pam na ddarfu i’r fath
wroniaid gael dylanwad tecach, cryfach ar eu cenedl?’ Y mae’r
atebion yn ‘The
Span of the Cross’.
Ynghyd â Chynddelw
Williams, trafodir Timothy Rees, a ddychwelodd i Gymru yn Esgob
Llandaf yn 1931, gwr y mae’n dda iawn gennyf i ei adnabod;
Lewis Valentine, y cyffelybir ei ymlyniad wrth y ‘Gymru
Gymraeg, Gristnogol’ i ymlyniad hen broffwyd wrth ei Israel;
J.E. Daniel, diwinydd ac athro; Ivor Oswy Davies, diwinydd a
disgybl - a dyn y tybiaf iddo gael ei gynnwys yn y llyfr oblegid
ei agosatrwydd at Karl Barth yn anad unrhyw reswm arall; ac yna
y ddau Annibynwr cawraidd, Pennar Davies a R. Tudur Jones, yr
ysgrifennodd Densil Morgan ysgrif Saesneg yn ei gwrthgyferbynnu
y llynedd. Y mae’r trafodaethau yn feistraidd bob un, ac yn
bleser i’w darllen.
Diau y tybia rhai fod y dewis
yn ddewis i anghytuno ag ef. Wrth gwrs ei fod! Ble mae’r
Archesgob Edwards ? A Miall Edwards ? Pam nad T. Glyn Thomas, ac
o’i flaen ef Thomas Charles Williams neu Jubilee Young? Na, ni
ffitiau y patrwm Barthaidd y mae Densil Morgan mor hoff ohono.
Ond ni wna rhagor nag un o’r cedyrn dethol hynny chwaith. Yn
wir, fe ddywedir am Pennar Davies y byddai wedi cyflawni mwy ‘petai
ganddo ddidwinyddiaeth gadarnach, a gweledigaeth grefyddol lai
unigolyddol’ - am Pennar Davies o bawb, yr ysbryd mwyaf
anghyffredin (o bosib) a gerddodd goridorau’r Colegau
Diwinyddol erioed! ac awdur-awenydd yr oedd ei anadl yn brawf o
allu Cymru fel pob cenedl i greu pobl nad ydynt yn ‘ddyledus’
i’w cymdeithas yn ogymaint ag yn wreichion a gododd o’r tân
anesboniadwy y mae crefydd-a diwinyddiaeth yn neilltuol-yn gais
i’w garu a’i esbonio.
Derec Llwyd Morgan.
Top
of Page
|