Dowch,
canwn fawl i’r Arglwydd Dduw,
Ef biau’r mawl yn ddiau;
Yn nerth ein hiechyd llawenhawn,
Gan gofio Ei holl ddoniau.
Deuwch
yn unfryd ger jEi fron,
O galon lawn diolchwn;
Mewn Salmau pêr, a llafar gân,
Ei Enw glân moliannwn.
Oherwydd
mawr yw’r Arglwydd Dduw,
A mawr Ei ryfeddodau;
Brenin ar holl frenhinoedd byd,
A Duw gorwuch bob duwiau.
Mae’r
gorddyfnderau yn Ei law,
A’r uchelderau hefyd;
Y dwylo luniodd fôr a thir
Sy’n llywio’r holl gyfanfyd.
Deuwch,
addolwn bawb ynghyd,
Yn wylaidd iawn ymgrymwn
Mewn ofn a dychryn ger Ei fron
Yn isel ymostyngwn.
Ein
Duw a’n Bugail da yw Ef,
Ninnau y’m braidd Ei borfa;
Yn ddiiogel yn Ei gadarn law
Fe’n harwain i’w orphwysfa.
Port
Talbot
ANNE MAINWARING