EMYN DAVID CHARLES AR
YR "YSBRYD GLÂN"
gan y diweddar Parch
J. ELLIS JONES, Rhyl
Emyn o waith David
Charles sy’ gennym o dan sylw, a’r tro hwn ei emyn ar yr Ysbryd Glân, neu
yn ôl y frawddeg yn y Llyfr Emynau (1929) emyn ar "Waith yr Ysbryd Glân
ar y Galon". Gwir nad olrhain y gwaith yn ôl camau arbennig a wna, namyn
crynhoi mewn llinellau sy’n rhan o eirfa’r profiad ysbrydol a erys gennym
tra byddo bri ar ein hemynyddiaeth fel cenedl. Yr engraifft fwyaf adnabyddus o
hynny ydyw’r cwpled ar "Uchelderau Duwdod yr Arglwydd Iesu Grist, a
dyfnderoedd ei ufudd-dod." Felly ‘r cwpled yn nechrau’r emyn hwn:
Nerthoedd y tragwyddol
Ysbryd
Yn haeddiannau’r dwyfol Iawn.
Dwy linell ydynt sy’n
cyfleu cefndir holl waith yr Ysbryd Glân ar galon dyn fel pechadur a sant. A’r
gair sy’n grynhoad o hyn eto ydyw y gair Nerthoedd. Gair yw a
gysylltir yn y Testament Newydd â holl weithrediadau yr Ysbryd Glân -
gweithrediadau nad allasai neb ond Ef eu cyflawni. Trwyddo Ef y cyflawni’r
Tad a’r Mab eu holl waith. Gelwir Ef yn Ysbryd Duw, ac yn Ysbryd Crist.
"Ysbryd Duw oedd yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd pan nad oedd y ddaear
onid afluniaidd a gwag." Ef a weithredai yn ymddangosiad y Mab yn y cnawd.
Ac addewid y Mab eilwaith oedd amdano fel "y Diddanydd arall, yr Ysbryd
Glân yr hwn a enfyn y Tad yn fy enw i."
Eto drachefn. Addewid
olaf Iesu Grist i’w ddisgyblion ydoedd: "Eithr chwi a dderbyniwch nerth
yr Ysbryd Glân wedi y delo efe arnoch ." A gweithrediadau yr Ysbryd
yn ôl Llyfr yr Actau a wna o’r llyfr hwnnw yr hanes mwyaf gwefreiddiol a
sgrifennwyd erioed. Yno gwelir yr Arglwydd Iesu Grist o’i safle ddyrchafedig
ar ddeheulaw’r Tad yn adeiladu ei Eglwys ar y ddaear. Ac megis y traetha’r
Apostol am "fynegi tystiolaeth Duw yn eglurhad yr Ysbryd a nerth," y
cân David Charles am
Nerthoedd y tragwyddol
Ysbryd
Yn haeddiannau’r dwyfol Iawn.
O fewn yr haeddiannau
hyn y mae nerthoedd sy’n aruthrol eu cylch a’u grym. Gyda pharchedig ofn y
perthyn pob cyfeiriad atynt. Er mai yn ein hachos ni, blant dynion y gwelir
hwynt, nid oes neb o blith y meddylwyr mwyaf eu gallu, eu dysg a’u
gwybodaeth ynghyd hefyd a’u gwelediad ysbrydol, na cheriwb na seraff a all
Lawn fynegi gwerth yr
Iawn.
Distaw ac anweledig ydyw’r
nerthoedd cryfaf o fewn y Cread Mawr, er bod ynddynt ruthriadau brawychus.
Felly nerthoedd yr Ysbryd Glân fel y’i gwelir yng Ngair Duw. "Bobl
annwyl, "meddai’r Doctor John Williams yn ei bregeth ar ’Crist yn
Gwymp ac yn Gyfodiad,’ "Bobl annwyl, a ydych yn ystyried eich bod wrth
ymwneud â chrefydd Mab Duw yn ymhel â nerthoedd dwyfol? Cymerwch yn araf
wrth drin yr adnodau yma, yr ydych yn ymdrin â phwerau ofnadwy. Nerthoedd
meddwl a chymeriad Duw ydynt nerthoedd ymgnawdoliad ac iawn ac atgyfodiad Mab
Duw ydynt, nerthoedd y tragwyddol Ysbryd, nerthoedd barn a thragwyddoldeb,
nerthoedd y byd a ddaw. Eithr yr hyn sydd ardderchog ydyw mai tuag atom ni y
maent ."
"Rhagorol fawredd
ei nerth ef tuag atom ni y rhai ydym yn credu," meddai’r Apostol.
Dyna gyfeiriad y nerthoedd sy’ gan David Charles yn yr emyn hwn. Nerthoedd
"gwaith yr Ysbryd Glân ar y galon." Nid ei eiriau ef ydynt hwy.
Geiriau’r sawl a gasglodd y Llyfr Emynau ynghyd ydynt. Cywir er hynny ydyw
dywedyd mai gwaith yr Ysbryd Glân ar y galon ydynt. Hynny sydd trwy’r holl
emyn. Gorffennol a phresennol a welir yn y pennill cyntaf. Gwaith wedi ei
gyflawni, a gwaith cyson i’w gyflawni. Darlun o’r saint a geir
ynddo, a’r pellter rhwng y fynwes ddiffaith galed a’r ffrwythloni’n
hyfryd lawn. Nid pellter amser na lle, ond pellter cyflwr ac anian.
Eithr dechrau arno, ac
nid yw’r "fynwes ddiffaith" ar ei gorau ond yn "egwyddorion
dechreuad ymadroddion Duw" (Heb. 5,12). Eto trwy arweiniad, amynedd a
chariad yr Ysbryd, sancteiddiwyd y fynwes "ymhob nwyd ac ym mhob
dawn." A chyn ddiwedd y pennill mae wedi cyrraedd yr aeddfedrwydd sy’n
"llawenydd yn yr Ysbryd Glân." Amrywiol ydyw’r ffigurau a
ddefyddir i ddangos y cynnydd a’r symudiad hwn. "Rhedeg yr yrfa gan
edrych ar Iesu," meddai’r Llythyr at yr Hebreaid. "Taith"
sydd gan John Bunyan, a rhyfeddol ydyw’r hanes ganddo am "droeon yr
yrfa" wrth edrych arnynt o "Fryniau Caersalem." Eithr yma yr
hyn a ddengys ydyw ffrwythlonwydd y profiad ysbrydol fel y’i dysgir gan yr
Arglwydd Iesu yn alegori y Wir Winwydden. Mor ardderchog ydyw’r gwaith a fu
ar y "fynwes ddiffaith" gan yr Ysbryd Glân hyd oni chlywir felyster
ei gân wrth
Ffrwythloni’n hyfryd
lawn
O rasusau
Pêr blanhigion nefol wlad.
Mor brydferth ydyw’r
wisg a rydd yr emynydd am y "pêr blanhigion" hyn. Ni ellid cael
rhagorach gair am danynt na gair y Testament Newydd mai Grasusau ydynt.
Dywedyd a wna hynny mai tarddu a blaguro a wnaethant "yng ngras ein
Harglwydd Iesu Grist, iddo ef, ac yntau yn gyfoethog, fyned er eich mwyn chwi
yn dlawd fel y cyfoethogid chwi trwy ei dlodi ef." (ll Cor.8,9). O’r
nefol wlad y daeth Ef i lawr i’n daear ni, ac ynddo Ef o’r "nefol
wlad" y tarddodd inni’r grasusau sydd yr unpryd yn "ffrwyth
yr Ysbryd Glân." O fewn undeb â Christ y gwelir y sant a’i hyfrydwch
beunydd ym mendithion y ffrwyth aeddfed a heuwyd gan yr Ysbryd Glân pryd nad
oedd ei fynwes onid "diffaith galed."
Eithr ni cheidw’r
ffrwyth iddo’i hun. Hoff ydyw o’i gyfrannu, gan fynegi gweithredoedd yr
Arglwydd iddo. Cenhadol ei ysbryd ydyw. Megis nad ffrwytho er ei fwyn ei hun a
wna’r winwydden, eithr er mwyn i arall dderbyn ohono, felly am y sawl ag
Ysbryd Crist yn preswylio ynddo. Yn yr Epistol ag y rhydd Paul ei brofiad o’i
"groeshoelio gyda Christ: eithr byw ydwyf; eto nid myfi, ond Crist sydd
yn byw ynof fi," y dengys hefyd mai "ffrwyth yr Ysbryd" ydyw’r
grasusau hyn. Rhydd restr o naw ohonynt eithr un ffrwyth ac nid ffrwythau,
oblegid yr un Ysbryd sydd ynddynt oll. Canghennau yr un pren ydynt. "Un
ydyw bywyd yr Ysbryd, ac agweddau ar yr un bywyd yw’r rhinweddau hyn."
"Rhinweddau mawr eu grym," meddai Pantycelyn. Y grym hwnnw ganddo ef
ydyw "nerthoedd y tragwyddol Ysbryd" gan David Charles,
Naturiol ydyw mai Cariad
a enwir gyntaf ganddo fel y mwyaf ei nodwedd o ffrwyth yr Ysbryd. Ac nid
oes trwy’r cread wir rym cryfach. "The greatest thing in the
world" yw’r teitl a roddodd Henry Drummond i’w lyfryn ar 1
Cor.13. A chywir yw ei air, oblegid "Duw, cariad yw" "Ac yr
ydym ni yn ei garu ef, am iddo ef yn gyntaf ein caru ni." Ac yng nghariad
yr Ysbryd y cedwir y sant i aros yng nghariad Crist, ac ufuddhau i’w
orchmynion Ef (Ioan xv,9,10). O! hinsawdd hyfryd! O rasusau hardd! "Planhigion
nefol wlad." Gwlad perllannau a gwinllannoedd, y rhai, meddai’r garddwr
wrth Bererin Bunyan, " a blannodd y Brenin i’w hyfrydwch ei Hun a
chysur pererinion."
Er y sôn ynddo am y
"fynwes ddiffaith galed," pennill yr uchelderau ydyw hwn, fel y
cyfan o emynau David Charles. A phwy a wyr nifer saint Duw a wybu orfoledd ei
iachawdwriaeth Ef wrth ei ganu gyda llawenydd yn eu calon a thangnefedd
yn eu mynwes - y grasusau cyntaf yn rhestr ffrwyth yr Ysbryd gan yr
Apostol, a gweled ohonynt eu hunain ynddo "megis mewn drych, gan Ysbryd
yr Arglwydd"?
Eithr o’r awyrgylch
ogoneddus lân a phur yna, dyma gan yr emynydd drawsgyweiriad sydyn yn yr ail
bennill i awyrgylch atgas "y fagddu fawr," a swn
Creigiau tanllyd Salem
waedlyd,
A fu’n bloeddio ag un llef,
Am Dywysog mawr y bywyd,
"Ymaith! O! croeshoelier Ef!"
Awyrgylch atgas, meddwn.
Ie, ond gwaith yr Ysbryd ar y galon sy gan David Charles yma hefyd gan ddangos
nerthoedd y tragwyddol Ysbryd wedi gorchfygu nerthoedd uffern obry a oedd yng
nghroesoeliad Crist. Geiriau ‘r Iesu ei Hun ydoedd: "Tywysog y byd hwn
sydd yn dyfod, ac nid oes iddo ddim ynof fi." A daeth i groeshoeliad
Tywysog y Bywyd gyda’i dywysogaethau, awdurdodau, bydol lywiawdwyr tywyllwch
y byd hwn, a drygau ysbrydol yn y nefolion leoedd mewn llawn feddiant o "galon
aflan dyn." Eu swn hwy a glywir yng nghynddaredd y dorf wallgof hon.
"Pwy enilla’r ymgyrch hyn?" Digon yw’r ateb yng ngair yr Iesu ei
Hun - Gorffennwyd. A geiriau’r Efengylwyr: "Ac wele, llen y deml
a rwygwyd oddi fyny hyd i waered." Ffaith ydoedd honyna ag iddi
ystyr fyd-eang. Sêl y goncwest ydoedd yr Atgyfodiad a’r Esgyniad.
Ond yr oedd gwaith
anrhaethadwy o anodd eto’n aros, a thrwy yr Ysbryd Glân y cyflawna Crist ef,
sef ennill iddo’i Hun "eisteddfa dawel yn y galon garreg hon."
Dyna galon y pechadur. "A phan ddêl, efe a argyhoedda’r byd o bechod,
ac o gyfiawnder ac o farn." A gwyddys yng ngoleuni hanes a phrofiad mai
gwaith goruwch-ddynol ydyw hynny. Cyfnewid anian pechadur, yr hwn yng
nghyndynrwydd ei ewyllys a chaledrwydd ei galon ddi-edifeiriol "nad oes
ofn Duw o fewn ei lygaid!" Dwyn y cyfryw un i’r hyn a alwai yr hen
saint yn "fwlch yr argyhoeddiad," ac yn ei edifeirwch ei wisgo â
gwisg y dyn newydd, yr hwn yn ôl Duw a grewyd mewn cyfiawnder a gwir
sancteiddrwydd!"
Yn hardd gerbron y
Tad.
Nerthol withrediad yr
Ysbryd Glân ydyw hyn oll
Yn haeddiannau’r
dwyfol Iawn.
Ei waith Ef ydyw’r
cyfan yng nghalon y person unigol neu galon torf, megis gyda’r rhai hyn yn
Jerwsalem:
Gwnaeth i’r rheini
Wylo edifeirwch pur.
Posibl mai uno a wna’r
emynydd y ddorf honno â’r un ar ddydd y Pentecost "a ddwys bigwyd yn
eu calon wedi clywed pregeth Pedr, a dywedyd wrtho ef a’r apostolion:
"Ha, wyr frodyr, beth a wnawn ni?" Yna Pedr a ddywedodd wrthynt,
"Edifarhewch a bedyddier pob un ohonoch yn enw Iesu Grist." A’r
hyn a welwn yno ydyw torf yn wylo yn angerdd yr adweithiad a berthyn i bechod,
a’r un pryd y cam cyntaf mewn argyhoeddiad. "Yna y rhai a dderbyniasant
ei air ef yn ewyllysgar a fedyddiwyd, a chwanegwyd atynt y dwthwn hwnnw
ynghylch tair mil o eneidiau."
Tair mil! Eithr nid pobl
ar wahân ydynt, ond pobl wedi eu ffurfio yn un corff a dwyn i’w geirfa air
newydd rhyfeddol ei ystyr a’i gynnwys - y gair Cymdeithas. A pha beth
a olygir wrtho? Yr Ysbryd Glân wedi rhoddi ffurf weledig i’r hyn ynddi ei
hun sydd yn anweledig, sef rhodd y Tad i’r Mab "pan cyfododd ef o feirw,
ac a’i gosododd i eistedd ar ei ddeheulaw ei hun yn y nefolion...ac a’i
rhoddes ef yn ben uwchlaw pob peth i’r eglwys, yr hon yw ei gorff ef, ei
gyflawnder ef, yr hwn sydd yn cyflawni oll yn oll." Yn holl adnoddau’r
cyflawnder hwn, un yw yr Eglwys er ei holl rannau. "Fel y byddont oll yn
un; megis yr wyt ti, y Tad ynof fi, a minnau ynot ti." Ar y nodyn aruchel
hwn y ceir David Charles yn moliannu Trydydd Person yr Hanfod Ddwyfol yn ei
oruchafiaeth yn cyfnewid anian torf a’i swyn ynghyd i’r gymdeithas sydd yn
wir gyda’r Tad a chyda’i Fab ef Iesu Grist.
Yn yr un nodyn y cawn ef
â gweddi ddwys ei thaerineb yn cyfarch yr Ysbryd am
Ei addurno â phur
ddelw’r
Hwn fu farw ar y bryn.
Pennill yw hwn yn
dechrau mewn dyhead dwfn , ac megis y dengys yn y pennill cyntaf y berthynas
rhwng nerthoedd yr Ysbryd â haeddiannau’r Iawn, y gwêl hefyd yr un
berthynas rhwng y "marw ar y bryn" â gwaith yr Arglwydd Iesu trwy
yr Ysbryd "yn puro ein pechodau ni trwyddo ef ei hun." Ac fel y
pwysleisia’r cyfrinwyr efengylaidd, onid dyna’r gwaith cyntaf yn yr
addurno hwn? Yma gwelir Ef nid yn unig yn "creu’r cyffroadau mawr"
ond hefyd yn "Ysbryd yr eneiniad dwyfol sy’n difa llygredd ein calonnau
a rhoddi inni’r wisg ddisgleirwen
Wedi ei channu yn y
gwaed."
Nid oes rhagorach darlun
o’r esgyneb odidog yng ngwaith yr Ysbryd Glân yn adddurno’r sant wrth ei
ddwyn i fod yr un ffurf â delw ei Fab ef na’r adnod yn 2 Cor. iii, 18,
"Eithr nyni oll ag wyneb agored, yn edrych ar ogoniant yr Arglwydd megis
mewn drych, a newidir i’r unrhyw ddelw, o ogoniant i ogoniant, megis gan
Ysbryd yr Arglwydd."
Ddiddanydd anfonedig
nef,
Fendigaid Ysbryd Glân!
Pwy na chred ynddo? Eto,
meddai’r Dr. James Denney: "Nid a ydych yn credu yn yr Ysbryd Glân?
ydyw cwestiwn mawr y Testament Newydd, eithr a dderbyniasoch chwi yr Ysbryd
Glân er pan gredasoch?" Dyna gwestiwn profiad, a’r derbyniad hwn o’r
Ysbryd Glân wrth addurno’r saint a gogoneddu yr Arlwydd Iesu Grist "yn
haeddiannau’r dwyfol Iawn," ac yn nerbyniad Duw y Tad, a roddodd i
David Charles y clo yng ngorfoledd uchel dwy linell olaf ei emyn eneiniedig
hwn -
Mawl a seinia
Trwy’r holl nefoedd fawr am hyn.
Top of Page