Cymdeithas Dydd yr Arglwydd yng Nghymru
"HWN YW Y SANCTAIDD DDYDD"

The Fellowship of the Lord’s Day in Wales
"THIS IS THE DAY THE LORD GAVE US"


 

ADNODDAU / RESOURCES

Gwerthfawrogi’r Sul Heddiw

 gan D Ben Rees

Y mae gennym fel teulu Duw ddiwrnod arbennig i ddod at ein gilydd i eglwys a chapel ‘a chynulleidfa y rhai cyfiawn.’  Mae’r Sul yn gwbl arbennig o gychwyniad y teulu gan fod cyfrifoldeb ar y disgyblion i dderbyn gras Duw, i gofio aberth Crist y Gorchfygwr, ac i gymdeithasu yng ngrym yr Ysbryd Glân.  Hwn fu’r dydd o brofiadau'r Oruwch Ystafell yn Jerwsalem i ddathlu, o amgylch y bwrdd, fuddugoliaeth Crist dros angau (gweler Epistol at y Corinthiaid, pennod 16, adnodau 1 a 2).
            Dydd ydyw i ymgynnull, naill unwaith neu ddwywaith neu deirgwaith i foli a chyhoeddi a thrafod.  Ar un adeg byddem yn cynnal o leiaf oedfa bore a hwyr ac Ysgol Sul yn y prynhawn ond darfu hynny bron ymhob capel y gwn i amdano.  Ond yn yr Eglwys Fore yr oedd rhesymau eraill am yr oedfaon hyn, sef cyfle i gasglu a derbyn.  Mewn un oedfa byddid yn casglu dillad ar gyfer aelodau anghenus o’r gymuned ac mewn oedfa arall yn derbyn offrwm i’w gyflwyno i’r aelodau o’r gymuned oedd mewn trafferthion ariannol a thrybini.  Fe ddeuwn ni bellach at ein gilydd i ddathlu Dydd a Byd Duw, i ddiolch am Waredwr a Meseia ein Bywyd, i addunedu gwneud daioni, ac i wynebu ar y dasg o fyw yn ffyddlon i Gymru, i Grist ac i’n Cyd-ddyn o Llun i Sadwrn.  Cyfle felly ddwedwn i adael i’r meddwl a’r enaid, y corff a’r ysbryd, y deall a’r emosiwn gael ei adnewyddu yng nghymdeithas y credinwyr.
            Sonia awdur Epistol at yr Hebreaid, awdur Epistol at yr Hebreaid, pennod 4, adnodau 9 a 10 am ‘orffwysfa’r Sabboth.’  Dyma a ddywed:  ‘Felly y mae gorffwysfa’r Saboth yn aros yn sicr i bobl Dduw.’
            Ac y mae’r awdur (ai Apollo ydoedd?) yn rhoddi disgrifiad cywir i ni o beth sy’n oblygedig yn y profiad o fwynhau cyfarfod a’n Cyd-Gristnogion o amgylch allor a phulpud sy’n cyhoeddi gwirionedd Duw yng Nghrist.  Deuwn ynghyd, mor gyson ag y medrwn gan fod gwendid ac afiechyd corff yn medru bod yn rhwystr blin i’r gorau ohonom gan fethu yn llythrennol â derbyn gwahoddiad grasol Duw a ninnau mewn awydd i gydnabod ei benarglwyddiaeth ac i dderbyn arweiniad cywir yr Iesu a chysur yr Ysbryd Glân.  Rhoddodd Benjamin Francis, Bedyddiwr o Ddyffryn Teifi, air o lawenydd pur i’r credadun o Gymro pan ddisgrifiodd ef ein breintiau fel aelodau o Eglwys Crist yn y byd a’r bywyd hwn.  Dyma ei ddisgrifiad campus:  ‘ Gwyn fyd y dinasyddion sydd yn rhodio’n rhydd ar hyd-ddi, y nefol fraint i minnau rho o Dduw i drigo ynddi.’  Ac ar ôl rhodio yn Ninas Duw clywn Grist yn ein galw i’w ganlyn mewn byd, sydd yn amddifad mor aml o’i gariad a’i gonsyrn.  Cofiwn Fedyddiwr arall, Gwili, yn sôn am y galw, ‘Canlyn Fi.’  Ac ar ôl ymateb 

            Minnau iti, Aer y nefoedd,
            Roddaf ddyddiau F’oes;
            Rhodiaf, gyda saint yr oesoedd,
            Ffordd y Groes.

 Cysegrwn ddyddiau’r wythnos ar ôl cynnal oed â Christ yn ei gysegr.  Ni allwn ond cyflawni ei ewyllys a chyfrif ei fendithion. 

            Iesu, aethost Ti â’m calon;
            F’enaid cu’n
            Llechu sy’n
            Ddifrad rhwng dy ddwyfron.

 Cawsom fel cymdeithas golledion mawr yn 2009.  Crybwyllwyd eisoes enwau nifer yn Etifeddiaeth sydd bellach yn y cwmwl tystion.  Un arall ohonynt yw’r Parchedig W J Griffiths, Llanelli.  Bu ef yn gysylltiedig â Phwyllgor y De am ddeugain mlynedd.  Cofiaf yn dda ei gyfarfod yn un o’r Pwyllgorau a gynhelid yr adeg honno yng Nghaerdydd pan oedd Ysgrifennydd llawn amser gan y Gymdeithas yng Nghymru.  A bu’r Parchedig W J Griffiths  yn ffyddlon i’w alwad ac i egwyddorion Dydd yr Arglwydd.  Talodd Huw Edwards yn ei gampwaith o gyfrol Capeli Llanelli (Caerfyrddin, 2009) deyrnged haeddiannol i ffyddlondeb W J Griffiths i Brotestaniaeth a’r dystiolaeth Ymneilltuol.  Ysgrifennodd ugeiniau o lythyron imi dros y blynyddoedd a bu’n gefnogol a charedig yn ei air.  Gwelaf golled enfawr ar ei ôl a diolchwn i Dduw am ei gadw i’r oedran teg o 84 mlwydd oed.  Coffa da amdano.

 

            Gwyn ei fyd sy heddiw’n canu,
            Sanctaidd fry
            Wedi llwyr orchfygu.

 


Top of Page