|
ADNODDAU / RESOURCES
Diwinydda yn Genesis
gan y Parchedig Ddr D Ben Rees
Yn ei ragair i’w esboniad gwerthfawr ar Lyfr
Genesis fe ddywed John Calfin y geiriau hyn:
If my readers wish to profit with me in meditating on the works
of God, they must bring with them a sober, docile, mild, and
humble spirit.
Gwêl Calfin lyfr Genesis fel cyfrol sydd yn llawn sialens,
hanesion a digwyddiadau a drosglwyddwyd o un genhedlaeth i’r
llall. Y traddodiad llafar yn sail i’r traddodiad ysgrifenedig.
Wrth weld pwynt Calfin, mae’n amlwg fod un gair ar goll yn ei
restr ef, sef y gair dewr. Ni wn pa a ddywedodd, ‘Biblical faith
demands courage’, ond y mae yn llygad ei le. Nid ar gyfer y gwan
ei feddwl na gwan ei ewyllys na gwan ei galon mo’r Ysgrythurau,
ond ar gyfer y cyfrin mewn deall, ewyllys ac ymroddiad. Y mae’r
Ysgrythur o hyd ac o hyd am i ni feddwl o ddifrif, ni allwn
eistedd i lawr yn hamddenol, cawn ein cyflyru i ystyried
hanfodion mwyaf bywyd. Gwir y dywedodd y Talmud ‘The righteous
have no rest, neither in this world nor the next.’ Sut allwn ni
orffwys ar ein rhwyfau pan mae ein cymdeithas ag angen arweiniad?
Sut y gallwn ni ymlacio pan mae pobl yn dioddef o law'r
greadigaeth ac o Greawdwr y Byd? Beth yw’r Sul yn y Gymru gyfoes,
ond protest y gweddill ffyddlon yn erbyn cymdeithas sydd wedi
colli eu pennau yn siopa ac wedi mynd yn glustfyddar i lais y
cennad?
Y mae’n amhosibl cerdded llwybrau bywyd heb gydwybod o ble y
daeth y gydwybod. Dyma lais distaw Duw yn ein corff, gair arall
ydyw am gyfrifoldeb a bywyd gwareiddiedig ymgais i wybod y
gwahaniaeth rhwng drwg a da. Dadleua Calfin fod Adda ac Efa yn
meddu ar gyfrifoldeb. Ond gwyddom yn dda nad yw’r byd na’n
cymdeithas yn mynd i wella o gwbl heb chwyldro sy’n golygu,
adeiladu, newid a gwella'r byd yn sgil y cyfan y Beibl yn ôl
Genesis yw galwad Duw i gyfrifoldeb dynol. Duw sy’n rhydd o
hualau yw Duw llyfr Genesis, Duw sy’n gweithredu yn hanes y rhai
a alwodd ef i wasanaethu ac i adnewyddu Cyfamod ar ôl Cyfamod.
Cawn storiâu cyffrous i’n poeni, sef Adda ac Efa, Cain ac Abel,
Noa a’r Diluw a Thŵr Babel. Nid hanes sydd yma ond patrwm ar
gyfer dynion a merched ym mhob oes. Athroniaeth a drama a
phregethu yw hanfod yr hanesion hyn. A’r llinyn sydd yn clymu’r
athroniaeth a’r dramâu cyffrous hyn yw mor barod ydan ni i roi’r
bai ar rywun arall. Rhoddodd Adda y bai ar Efa. Ond ni ellid
tawelu’r llais, sef y gydwybod. Nid rhyfedd i Adolf Hitler alw’r
gydwybod yn ddarganfyddiad Iddewig. Ond o’r cychwyn cyntaf cawn
ein hunain yn ceisio dianc rhag ein cyfrifoldeb. Gwelwn ein
hunain mewn enbydrwydd. Daw trais i anharddu ein byw. Gwelwn ein
hunain yn cywilyddio am ein gilydd. Pwy oedd â chywilydd o Noa?
Wel ei feibion. Gwelwn Noa yn ei drachwant. Achub ei hunan a’i
deulu oedd ei ddymuniad pennaf a dau o bob peth byw. Ni chlywn
amdano yn ceisio achub bywyd neb o’i gymdogion. Nid oedd Noa yn
teimlo cyfrifoldeb dros ei gyfoedion, a bu’n brin o eiriol
drostynt. Er bod Noa yn cael ei alw yn ŵr cyfiawn, mae’n amlwg
iddo fethu cofleidio’r gymuned a’i fyd. Nid oes y fath beth mewn
bod i Noa â chyfrifoldeb sy’n cyfuno ei deulu a’r gymdeithas
gyfan. Collodd Adda baradwys. Condemniwyd Cain i grwydro’r byd.
Dirywiodd Noa yn feddwyn. Gadawyd Tŵr Babel heb ei gwblhau.
Gwelwn ddiffyg cyfrifoldeb. Bu’n rhaid aros i ddyfodiad y
proffwydi a’r proffwyd pennaf ohonynt i gyd, yr Arglwydd Iesu i
newid y sefyllfa. Heb yr Iesu yr ydym ni yn sefyllfa Adda a
Chain a Noa a thrigolion anhrefnus Tŵr Babel. Hel plant ar goll.
Daeth Crist y Pasg a chydwybod a chyfrifoldeb yn waddol yr alwad.
Welsh words
William Williams, Pantycelyn
Marchog Iesu, yn llwyddiannus
Gwisg dy gleddau ‘ngwasg dy glun;
Ni all daear dy wrthnebu,
Chwaith nag uffern fawr ei hun:
Mae dy enw mor ardderchog,
Pob rhyw elyn gilia draw;
Mae dy arswyd trwy’r greadigaeth;
Tyrd am hynny maes o law.
Tyn fy enaid o’i gaethiwed,
Gwawried bellach fore ddydd,
Rhwyga’n chwilfriw ddorau Babel,
Tyn y barrau heyrn yn rhydd:
Gwthied caethion yn finteioedd
Allan, megis tonnau llif,
Torf a thorf, dan orfoleddu,
Heb na diwedd fyth na rhif.
Minnau bellach orfoleddaf
Fod y Jiwbil fawr yn dod,
Y cyflawnir pob rhyw sillaf
A lefarodd Iesu erioed:
De a gogledd yn fyrddiynau
Ddaw o eithaf tywyll fyd,
Gyda dawns ac utgyrn arian,
‘Mewn i Salem bur ynghyd.
Llyfr Emynau a Thonau y
Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd
1929
|
English words by
Rev E Cynolwyn Pugh, New York City
Mighty Jesus, ride victorious, Savior,
Gird they sword for battles strong:
Earth can never dare oppose thee,
Nor can hell withstand thee long:
And thy name is so illustrious,
Every foe will flee away;
Through creation runs thy terror:
Come then, Lord, do not delay.
From its serfdom loose my spirit,
May I soon the day-dawn see,
Break in pieces Babel’s portals,
Every iron bar set free:
Forth let bondslaves in vast legions
Come, like floods so wild and strong,
Multitudes in endless numbers,
Praising God in glorious song.
Nor I shall rejoice in triumph
That the Jubilee draws near,
When each word that Jesus uttered
Will His trust make crystal clear:
North and South in countless millions
Come they will from earth’s dark shores,
With a dance and silver trumpets,
In through Salem’s open doors.
|
Top of Page
|